Mae gan bawb eu harferion eu hunain. Y gyfres o arferion hynny a’r pethau bach a wnawn bob dydd. Maent yn arferion cynhenid, ac rydym weithiau’n eu cwblhau heb feddwl.
Ond mae’n dda weithiau oedi a meddwl am yr arferion a wnawn. Mae newidiadau y gallwn eu ymgorffori i’n harferion ‘bach’ dyddiol a fydd yn cael effaith fawr os ydym ni’n parhau i’w gwneud dros gyfnod o amser…a dyna’n union pam fydd ailddefnyddio’n helpu’r amgylchedd yn yr hirdymor.
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae cyfleoedd i ni gyd newid arfer sy’n cynnwys prynu eitem defnydd untro, a’i chyfnewid am rhywbeth y gellir ei hailddefnyddio sy’n fwy cynaliadwy yn amgylcheddol. Mae eitemau y gellir eu hailddefnyddio yn rhatach yn yr hirdymor, ac maent yn ffordd wych o leihau nifer yr eitemau untro sy’n achosi problem enfawr i’r blaned.
“Gallwn wneud hyn drwy leihau cymaint o eitemau untro ag y gallwn ni, ac ailgylchu ac ailddefnyddio ein plastigion eraill, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn Wrecsam, ond rhaid i ni wneud hyn gyda’n gilydd.”
Dewis i ailddefnyddio
Dyma rhai enghreifftiau lle gellir cyflwyno eitemau y mae modd eu hailddefnyddio i’ch ffordd o fyw.
Gorchudd wyneb y gellir eu hailddefnyddio
Mae pawb wedi arfer gwisgo gorchudd wyneb dros y misoedd diwethaf, gan eu bod nawr yn orfodol mewn sawl man cyhoeddus, ond os nad ydych eisoes wedi gwneud, efallai ei bod hi’n bryd ystyried mewn rhai y gellir eu hailddefnyddio.
Mae masgiau neu orchuddion y gellir eu hailddefnyddio llawer gwell ar gyfer yr amgylchedd, ond sicrhewch fod gan eich un chi dair haen o gotwm wedi’i wehyddu’n agos, oherwydd nid yw deunyddiau sidan yn cynnig llawer o amddiffyniad yn erbyn lledaeniad y coronafeirws.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn dangos y gofynion derbyniol ar gyfer gorchuddion wyneb.
Mae cyngor hefyd ar sut i wneud eich gorchudd tair haen eich hun.
https://www.youtube.com/watch?v=59TC7zwBwsA
Os ydych chi’n defnyddio masg wyneb untro, mae’n bwysig eich bod yn ei waredu’n gywir. Defnyddiwch finiau gwastraff cyffredinol neu ewch â nhw adref i gael gwared arnynt yn ddiogel, gan olchi eich dwylo neu eu diheintio’n syth wedyn.
Yn anffodus, nid yw pobl wedi dilyn y cyngor hwn, ac maent wedi gollwng masgiau untro ar draws Wrecsam, sy’n peri risg o ledaenu’r feirws a pherygl i fywyd gwyllt, a allai fynd yn sownd yn y clymau a ddefnyddir i ddal y masg yn ei le.
Byddwch yn gyfrifol.
Poteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio
Ydych chi’n rhywun sy’n prynu potel o ddŵr ar eich ffordd i’r gwaith bob dydd? Nawr bod y tywydd yn gynhesach, efallai eich bod yn prynu mwy nag un y dydd. Os felly, meddyliwch faint o boteli untro rydych yn eu defnyddio bob wythnos/mis/blwyddyn.
Efallai ei bod hi’n bryd ystyried prynu potel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio a’i llenwi cyn i chi fynd allan? Byddwch yn helpu’r amgylchedd a bydd eich waled/pwrs yn diolch i chi hefyd.
Yn ogystal â hynny, os oes well gennych flas dŵr wedi ffiltro, a wyddoch fod modd prynu hidlydd dŵr y gellir ei hailddefnyddio i ddefnyddio yn eich cartref neu wrth deithio?
Newidiwch eich arferion a dewiswch i ailddefnyddio.
Cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio
Efallai mai cwpanaid o goffi rydych yn ei brynu bob dydd? Os felly, pam na wnewch chi brynu cwpan coffi y gellir ei ailddefnyddio yn lle defnyddio cwpan untro o hyd?
Cyn y pandemig, roedd hi’n gynyddol boblogaidd a byddai’r mwyafrif o siopau coffi yn fodlon iawn llenwi eich cwpan petaech yn gofyn. Roedd rhai siopau coffi’n cynnig gostyngiad i’r pris am ddod â’ch cwpan coffi eich hun gyda chi hyd yn oed! Er bod rhai siopau wedi gohirio hyn dros y misoedd diwethaf, wrth i bethau ddychwelyd yn ôl i’r ‘arfer’, mae rhagor ohonynt yn dechrau derbyn cwpanau y gellir eu hailddefnyddio eto.
Dyma rhai enghreifftiau’n unig, ond os ydyn ni’n dewis ailddefnyddio lle bynnag y gallwn, byddwn yn parhau i wneud gwahaniaeth yn y frwydr yn erbyn plastigion untro.
Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2021/22 o heddiw ymlaen
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN