Ydych chi erioed wedi ystyried gyrfa yn y sector ofal?
Os ydych chi, piciwch i mewn i Dŷ Pawb ar 23 Ionawr i weld beth sydd ar gael yn y diwydiant gofal yn Wrecsam.
Mae gennym ddarparwyr gofal annibynnol, ffyniannus sy’n cael eu contractio gennym i ddarparu gwasanaethau gofal i’n trigolion mwy diamddiffyn a llai annibynnol. I sicrhau bod hyn yn digwydd, rydym yn eu cefnogi i recriwtio’r bobl orau ar gyfer y swydd. Gallech chi fod yn un o’r bobl hynny, ac efallai mai’r digwyddiad hwn yw’r union beth sydd ei angen arnoch chi i wneud y camau cyntaf hynny yn y proffesiwn gofal.
Gallwch weld fideos hyrwyddo ynglŷn â gweithio yn y sector gan ddefnyddio gofalwyr go iawn sy’n fwy na pharod i rannu eu profiadau. Cewch gwrdd â Rheolwyr y Darparwyr Gofal a dysgu mwy am y sawl gwahanol ffordd y gallech chi gefnogi pobl yn y gymuned.
Gallwch ddarganfod pa hyfforddiant fydd ar gael i chi, cyfraddau tâl, oriau gwaith ac ati, ac a oes unrhyw swyddi gwag yn y meysydd y mae gennych ddiddordeb penodol ynddynt.
Dywedodd y Cyng Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Gall gofalu fod yn yrfa werth chweil a boddhaus ac efallai mai’r digwyddiad hwn yw’r union beth sydd ei angen arnoch i ddechrau ateb eich cwestiynau a rhoi dechrau gwych i’r flwyddyn newydd. Dewch draw am sgwrs gyda staff i ddarganfod sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth i fywydau.”
Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 2pm ac os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth cyn i chi fynd, ffoniwch 01978 2192883.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR