I gefnogi Wythnos Genedlaethol Diogelu, rydym eisiau codi ymwybyddiaeth o rai o’r heriau a wynebir gan bobl ifanc heddiw.
Bob blwyddyn bydd dros 7,000 o bobl dan 25 oed yng Nghymru yn gofyn am gymorth gyda digartrefedd.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Gall yr heriau a wynebir ganddynt yn awr, megis risg uwch o dlodi ac amddifadrwydd, gostyngiad mewn hawliau i fudd-daliadau, a gwahaniaethu yn y marchnadoedd tai a llafur effeithio ar eu llwybr i fywyd fel oedolyn annibynnol.
Gall rhai pobl ifanc gael eu heffeithio’n fawr gan y ffactorau hyn ac felly, maent mewn perygl uwch o fod yn ddigartref. Rhai enghreifftiau yw pobl sy’n gadael gofal, a’r rhai sydd methu ag aros gyda’u teulu neu eu gofalwr.
Mae yna lawer o resymau pam bod pobl ifanc yn ddigartref. Mae’r rhain yn cynnwys, tor-berthynas teuluol, problemau iechyd meddwl, troseddu, gadael yr ysgol yn fuan.
Mae digartrefedd ieuenctid yn fater cymhleth.
Nid oes rhaid i chi fod yn byw ar y strydoedd i gael eich ystyried yn ddigartref. Mae pobl ifanc yn aml iawn yn rhan o’r hyn a elwir yn “ddigartrefedd cudd” gan eu bod yn mynd o dŷ i dŷ neu’n cysgu ar loriau, gyda ffrindiau neu ddieithriaid i osgoi cysgu ar y stryd. Wrth i haelioni ffrindiau a theulu leihau, yn aml maent yn gwneud mwy a mwy o benderfyniadau peryglus ynghylch ble i gysgu bob nos. Gall bod yn ddigartref pan rydych yn ifanc fod yn frawychus a gall gael effaith gydol oes os nad yw’r gefnogaeth gywir ar gael ar yr amser cywir.
Os ydych yn poeni am eich sefyllfa eich hun neu’n adnabod rhywun sydd, cysylltwch a Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ar 01978 292094 neu ewch i’w tudalen Facebook https://www.facebook.com/WrexhamFamilyInformationServiceCym neu e-bostiwch eich ymholiad at fis@wrexham.gov.uk
Nid ydych ar ben eich hun ac mae cymorth ar gael i chi.
#DiogeluWrecsam #WythnosGenedlaetholDiogelu
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG