Efallai eich bod wedi clywed adroddiadau diweddar am gyflwyno “sgriniau digidol” yn Wrecsam, ac o bosib bod nifer ohonoch yn cwestiynu “pam, beth ydi eu pwrpas?”
Wel, wrth i’r ddinas symud ymlaen â’i chynlluniau creu lleoedd, mae angen i ni sicrhau bod gan fusnesau canol y ddinas y gallu a’r cyfleoedd i hyrwyddo eu hunain i’n canolbwynt ymwelwyr.
Beth sy’n wahanol am sgriniau digidol?
Cydnabyddir bod 83% o bobl yn cofio cynnwys maent wedi’i weld ar y cyfryngau cymdeithasol o’i gymharu â’r hyn maent wedi’i ddarllen ar boster neu hysbyseb. Mae sgriniau digidol yn dal sylw pobl gan eu bod nhw mor weledol.
Gellir eu diweddaru yn gyflym iawn, fel bod pobl yn ymwybodol o’r hyn sydd ymlaen ac ym mhle. Gall fod yn gynnig arbennig dau am bris un mewn siop goffi neu’n ostyngiad o 10% oddi ar bryd o fwyd i ddau.
Bydd y sgriniau’n cefnogi hyrwyddo busnesau lleol.
Gellir ychwanegu digwyddiadau yn rheolaidd a’u diweddaru hefyd os bydd pethau’n newid – rhywbeth na ellir ei wneud gyda phoster, heb orfod talu am eu hail-greu a threulio amser yn eu gosod yn lle’r hen rai.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio: “Does dim amheuaeth bod Wrecsam ar gynnydd, a gyda gwyliau a digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal, mae busnesau lleol angen lle i hyrwyddo eu hunain i’r sawl sy’n ymweld â’r ardal, nifer ohonynt am y tro cyntaf. “Mae sawl mantais o ddefnyddio sgriniau digidol yn hytrach na dulliau hysbysebu traddodiadol a byddant ar gael i’w defnyddio’n rhad ac am ddim. O ystyried hyn, rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â’r cynlluniau a’u gweld ar waith cyn gynted â phosibl.