Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pam bod ailgylchu eich gwastraff bwyd yn syniad da?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Pam bod ailgylchu eich gwastraff bwyd yn syniad da?
Y cyngor

Pam bod ailgylchu eich gwastraff bwyd yn syniad da?

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 9, 2023 9:05 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Pam bod ailgylchu eich gwastraff bwyd yn syniad da?
RHANNU

Ydych chi’n ailgylchu gwastraff bwyd? Os felly, ydych chi’n ailgylchu popeth y mae modd i chi wneud?

Cynnwys
  • Beth sy’n mynd i mewn i’ch cadi bwyd?
  • Creu deunydd gwella pridd – a’i gasglu yn rhad ac am ddim!
  • Mae’n fwy glanwaith!

Sylwch, Cymru yw’r drydedd genedl orau am ailgylchu yn y byd ar hyn o bryd, nid yw hynny’n ddrwg o gwbl. Mae 95% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd, ond mae dal llawer o le i wella o ran gwastraff bwyd.

Yn Wrecsam, rydym yn amcangyfrif bod llai na hanner ein preswylwyr yn ailgylchu eu gwastraff bwyd a bod y gweddill yn cael ei roi yn ein biniau sbwriel.

Beth sy’n mynd i mewn i’ch cadi bwyd?

Os hoffech gael eich atgoffa o’r hyn y dylech ei roi yn eich cadi, rydych chi wedi dod i’r lle iawn.

Yn ogystal â phopeth y byddwch chi’n ei wybod eisoes, edrychwch ar y rhestr hon o rai o’r bwydydd na fyddech chi wedi meddwl amdanynt o reidrwydd, fel:

  • Bwydydd sydd dros y dyddiad
  • Esgyrn a charcasau
  • Plisgyn wyau
  • Croen banana (a philion eraill)
  • Canol afalau
  • Coffi mân
  • Bwydydd amrwd
  • Bwydydd sydd wedi llwydo
  • Crafion platiau
  • Prydau parod heb eu bwyta
  • Bwyd brys (e.e. sglodion a phitsas)
  • Pysgod cregyn

Pethau nad ydyn ni eisiau i chi geisio eu hailgylchu fel gwastraff bwyd ydi hylifau (fel olew neu lefrith), pecynnau, bagiau plastig, clytiau neu wastraff gardd.

Dyna beth y mae modd ei ailgylchu, felly beth am symud ymlaen i edrych ar pam y dylech ailgylchu eich gwastraff bwyd 🙂

Wedi gweld twll yn y ffordd? Gadewch i ni wybod.

Creu deunydd gwella pridd – a’i gasglu yn rhad ac am ddim!

Defnyddir eich gwastraff bwyd a gardd yn Wrecsam i greu deunydd gwella pridd, sydd ar gael i’n preswylwyr i’w gasglu o’r tair canolfan ailgylchu trwy gydol y flwyddyn.

Felly, yn hytrach na rhoi bwyd yn eich bin gwastraff cyffredinol, beth am ddechrau ailgylchu eich bwyd dros ben a’i droi’n rhywbeth defnyddiol? Ac yna, pan fyddwch angen gwneud rhywfaint o arddio, gallwch ddod i gasglu rhywfaint o ddeunydd gwella pridd yn rhad ac am ddim. Mae’n swnio fel syniad da, tydi?

Mae’n fwy glanwaith!

Roedd ymchwil WRAP Cymru’n dangos mai’r ‘ffactor ych a fi’ (yuck factor) yw’r rhwystr mwyaf i bobl, gan eu bod yn pryderu am arogleuon, gollyngiadau ac arllwysiadau.

Fodd bynnag, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod ailgylchu ein gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon ac yn fwy glanwaith na’i roi yn y bin. Caiff cynnwys ein cadis bwyd ei gasglu bob wythnos, tra bod ein gwastraff anailgylchadwy yn cael ei gasglu’n llai aml.

Gan gadw hyn mewn cof, gofynnwch i’ch hun eto ‘pam nad ydw i’n ailgylchu fy mwyd dros ben?’ Oes gennych chi ateb? Ai un o’r rhain yw’r ateb?

  • I arbed amser efallai? Anghywir. Mae rhoi bwyd dros ben mewn cadi bwyd yn cymryd yr un faint o amser â’u rhoi nhw yn unrhyw le arall.
  • Mae bagiau i’r cadi yn ddrud. Nac ydyn, rydym wedi bod yn darparu bagiau rhad ac am ddim i’r cadis ers tro bellach. Gall unrhyw un sydd angen rholyn newydd glymu bag gwag i handlen eu cadi ar eu diwrnod casglu nesaf, a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi yn rhad ac am ddim. Neu, os yw’n well gennych, gallwch gasglu rhai o un o’r 40+ lleoliad yn Wrecsam sy’n eu cadw.
  • Mae fy nghadi bwyd wedi torri. Dim problem, gallwch wneud cais am un newydd am ddim ar ein gwefan.

Felly, does ddim rheswm pam na ddylech chi ailgylchu gwastraff bwyd. Gan ein bod yn trafod y pwnc yma, dyma rai awgrymiadau defnyddiol y gallwch eu dilyn…

Helpwch ni i wneud yn well, a dysgwch fwy trwy fynd i www.wrecsam.gov.uk/services/biniau-ac-ailgylchu

Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

Rhannu
Erthygl flaenorol Digital Screens Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu
Erthygl nesaf Hands Cefnogaeth i ofalwyr ifanc yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English