Mae arddangosfa gyfredol Amgueddfa Wrecsam ar hanes Ysbyty Pwylaidd Llannerch Banna wedi denu llawer o ddiddordeb!
Roedd yr ysbyty yng nghanol gymuned Bwylaidd unigryw a dyfodd yn Llannerch Banna am nifer o flynyddoedd ar ôl iddi agor ym 1946.
Ers i’r arddangosfa agor, mae llawer o bobl wedi ymweld â’r Amgueddfa i rannu eu hatgofion a straeon eu hunain am gymuned yr ysbyty.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB
Parti ar gyfer Pwylaidd Llannerch Banna
I ddathlu hyn, mae digwyddiad arbennig yn cael ei gynllunio yn yr amgueddfa i aduno aelodau o gymuned Ysbyty Pwylaidd a’u teuluoedd.
Os ydych chi’n adnabod unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod draw, rhowch wybod iddyn nhw! Byddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o bobl â phosibl yn mynychu i rannu eu straeon ac efallai cwrdd â hen ffrindiau!
Bydd hefyd yn gyfle i weld rhai o’r eitemau gwych a achubwyd o’r ysbyty ac sydd bellach yn cael eu harddangos fel rhan o’r arddangosfa.
Sut i gymryd rhan
- Cynhelir yr aduniad yn yr Amgueddfa ddydd Sadwrn, Mai 11 am 2pm
- Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle, cysylltwch â’r Amgueddfa – 01978 297460 neu e-bostiwch museum@wrexham.gov.uk
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB