British Military Tattoo 2022

Dychwelodd y Tatŵ Milwrol Prydeinig i Wrecsam ddydd Sadwrn gyda’u sioe “A Reel of Remembrance”, Pasiant Cerddoriaeth Milwrol Gogledd Cymru, a chafwyd noson arbennig iawn.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Cafodd y gynulleidfa wledd o adloniant a’u hysbrydoli gan berfformiadau gan:

  • Band Catrodol a Chorfflu Drymiau’r Cymry Brenhinol
  • Masgotiaid Catrodol y Fyddin Brydeinig
  • Corfflu Drymiau’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
  • Côr y Gwragedd Milwrol a’r Unawdwraig Ava Gordon Butler
  • Peipiau a Drymiau Tatŵ Rhyngwladol Prydain
  • Côr Canzonetta a Cherddorfa Cyngerdd Lerpwl
  • Arddangosfeydd Ymarfer Milwrol gan y Coleg Hyfforddiant  Milwrol Paratoadol
  • Batala Bangor yn cynrychioli’r Gymanwlad
  • Ysgol Ddawns Wyddelig Emma May
  • Dawnswyr White Rose Highland
  • Band Roberts Bakery

A llawer mwy

Cyn y cyngerdd arbennig, cynhaliwyd arddangosfeydd milwrol gan y lluoedd arfog yn ogystal ag amrywiaeth o stondinau a gweithgareddau i’r teulu cyfan.

Meddai’r Cynghorydd Beverley Parry Jones, yr Hyrwyddwr Lluoedd Arfog, a oedd yn bresennol yn y digwyddiad, “Roedd yn ddigwyddiad teimladwy tu hwnt a oedd yn mynd â’r gynulleidfa ar siwrnai gerddorol drwy bob degawd o deyrnasiad y cyn Frenhines. Cafwyd perfformiadau cerddorol bywiog drwy gydol y noson ac roedd yn ddigwyddiad arbennig tu hwnt.

“Wrth i Apêl Pabi’r Lleng Brydeinig Frenhinol a Sul y Cofio nesáu, roedd yn deyrnged briodol i’n lluoedd arfog ac yn atgoffa’r gynulleidfa o’r aberth sylweddol mae milwyr wedi’i wneud ar ein rhan er mwyn i ni fedru mwynhau’r rhyddid sydd gennym ni heddiw.”

Roedd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Brian Cameron, hefyd yn bresennol, disgrifiodd y digwyddiad fel un “ysbrydoledig” a dywedodd ei fod “yn anrhydedd o’r mwyaf cael mynychu’r digwyddiad yn Wrecsam lle mae’r lluoedd arfog yn agos iawn at ein calonnau.  Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i’r lluoedd arfog, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r holl ddigwyddiadau sydd wedi cael eu cynnal.”

Meddai’r trefnydd, Gareth Butler, “Rydym wedi bod yn edrych ymlaen yn arw at gynnal y digwyddiad hwn yn Wrecsam unwaith eto, ac fe wnaethom gynyddu nifer y tocynnau a oedd ar gael yn dilyn ein llwyddiant y llynedd.  Ni wnaeth Wrecsam ein siomi, cafwyd digwyddiad teimladwy a myfyriol a noson i’w chofio.

“Rwy’n gobeithio ein bod wedi ennill digon o gefnogaeth i wneud y digwyddiad hwn yn un blynyddol ar gyfer yr ardal, ac mae ein sioe “The Mighty Atlantic” i gofio am Frwydr yr Iwerydd eisoes wedi cael ei hysgrifennu a’i chastio ar gyfer 15 Gorffennaf 2023.”

Trefnwyd y digwyddiad er budd yr Elusen Not Forgotten i Gyn-filwyr.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI