Mae digwyddiad i helpu aelwydydd i gael cymorth a chefnogaeth costau byw wedi ei drefnu ar gyfer 19 Hydref yn yr Hwb ym Mhartneriaeth Parc Caia rhwng 9am a 2pm.
Bydd staff o amrywiaeth eang o asiantaethau cyngor a chymorth, o incwm, lles, ynni etc wrth law yn ystod y diwrnod.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd lluniaeth am ddim a raffl am ddim i denantiaid Cyngor gyda gwobrau yn cynnwys popty araf fel ffordd o baratoi prydau i’r teulu sy’n effeithlon o ran ynni.
Bydd cymorth a chyngor ar gael gan:
- Hafren Dyfrdwy (dŵr, yma i helpu, gostyngiad mewn cyfraddau)
- Cymru Gynnes (cyngor ynglŷn ag ynni)
- Groundwork (cyngor ynglŷn ag ynni)
- Trussell Trust (Banc Bwyd)
- Eglwys Sant Marks
- C4W (cyflogaeth a hyfforddiant)
- Swyddfa Ystadau Caia CBSW a’r Tîm Effaith Prosiect
- RSPCA a Banc Bwyd Anifeiliaid
- Gwasanaeth Cyngor Caia (cyngor ar ddyledion budd-daliadau)
- Amddiffyn Cathod
- Rabbit Rescue
- Tîm Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (bwyta’n iach)
- Grŵp Rhieni Parc Caia
- Ymwelydd Iechyd
- Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
- Tîm diogelwch cymunedol yr Heddlu
- MIND (cefnogaeth iechyd meddwl)
- Cyngor ynni Lite Green
- Partneriaeth Parc Caia
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Cefnogwr Atal Tlodi, “Yn sicr mae aelwydydd yn ei chael yn anodd gyda phrisiau’n codi gan gynnwys costau bwyd ac ynni. Mae’r tîm yn Swyddfa Rheoli Ystadau Parc Caia wedi gwneud gwaith gwych i ddod ag asiantaethau a sefydliadau ynghyd i gynnig cyngor a chymorth ymarferol ac rwy’n annog pawb sy’n gallu mynd i sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth y maent yn gymwys iddo.”
Gweler hefyd:
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH