I ddathlu llwyddiannau Cymru a Phrydain yn ei Blodau eleni, cynhaliwyd seremoni wobrwyo yn Neuadd y Dref yn ddiweddar.
Croesawyd gwesteion a sefydliadau gwadd (a restrir isod) i Neuadd y Dref a chyflwynwyd tystysgrifau iddynt.
Croesawodd y Cynghorydd Nigel Williams y cyfranogwyr cyn trosglwyddo’r awenau i Faer Wrecsam, y Cynghorydd Beryl Blackmore, a chadeirydd Cymru yn ei Blodau, Peter Barton-Price, i gyflwyno’r tystysgrifau.
Dywedodd y Cynghorydd Beryl Blackmore, Maer Wrecsam, “Roedd y balchder yn Wrecsam yn sicr i’w weld yn y seremoni wobrwyo ac roedd yn wych gallu gwobrwyo’r ymdrechion mawr gan y grwpiau a’r sefydliadau am eu gwaith caled i wella golwg ein cymunedau.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Rydym wedi cael llwyddiant mawr yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny’n dyst i’r gwaith cydweithredol rhwng y nifer o sefydliadau gwych sy’n bodoli yn Wrecsam a’n staff a’n swyddogion.”
Dywedodd Peter Barton-Price, Cadeirydd Cymru yn ei Blodau, “Rwy’n falch iawn o gael fy ngwahodd i fynychu a chyflwyno’r wobr leol “Dyma eich Cymdogaeth” gan yr RHS a thystysgrifau cyfranogiad Wrecsam.
“Mae Wrecsam i’w llongyfarch am eu llwyddiannau anhygoel yn 2024 – mae eu dull ar y cyd sy’n cynnwys Aelodau Etholedig, Swyddogion a staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’i fyddin o grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr lleol wedi cyflawni canlyniadau anhygoel nid yn unig yng Nghymru ond hefyd ar lefel genedlaethol y Deyrnas Unedig.
“Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar y ddinas a’r ardaloedd cyfagos ac rwy’n gwybod y bydd hyn ond yn cryfhau’r hyfrydwch sydd eisoes gan Wrecsam.
“Mae Cymru yn ei Blodau a’i haelodau yn edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd eto eleni yn 2025.”
“Llongyfarchiadau! A da iawn bawb.”
I gael gwybod mwy am Cymru yn ei Blodau neu sut i ymgeisio am “Dyma eich Cymdogaeth” yr RHS – ewch i wefan Cymru yn ei Blodau:
www.walesinbloom.co.uk neu e-bostio campaign@walesinbloom.co.uk































Pedal Power Wrexham |
Wrexham Litter Pickers |
The Venture |
The Plants – Plants Plas Madoc |
Gwenfro Valley Adventure Playground |
Incredible Edible Wrexham |
Plas Pentwyn Gardening Group |
Woodwork CIC |
Erlas Community Walled Garden |
Llwyneinion Woodland and Village Green |
Holt Community Gardeners |
Brymbo Heritage Orchard |
Acton Park Volunteers |
Cefn Community Council |
Jacqui Kearsley and Mike Taylor (Front Garden) |
James Colvin (Front Garden) |
Malcom Hughes (Gwersyllt Community Garden) |
FCC Environment |
Rhosnesni High School Gardening Club |