Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyma’ch Gwahoddiad! Sut i Fwrw’r Targed Ariannu: Gweithdy Ysgrifennu Cynigion Grant
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Dyma’ch Gwahoddiad! Sut i Fwrw’r Targed Ariannu: Gweithdy Ysgrifennu Cynigion Grant
Busnes ac addysg

Dyma’ch Gwahoddiad! Sut i Fwrw’r Targed Ariannu: Gweithdy Ysgrifennu Cynigion Grant

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 18, 2025 10:40 am
Rhannu
Darllen 3 funud
funding
RHANNU

Yn dilyn llwyddiant cynllun Grant Busnes Wrecsam y Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae’r Tîm Busnes a Buddsoddi yn gweithio mewn partneriaeth â Busnes Cymru ac rydyn ni’n gyffrous i gynnig gweithdy ymarferol sy’n addas i ddechreuwyr. Mae hwn wedi’i ddylunio i helpu busnesau i gael gafael ar gymorth ymarferol i lywio’r broses ysgrifennu cynigion grant.

Ydych chi’n barod i fynd â’ch busnes i’r lefel nesaf?

Mae cael gafael ar gyllid yn hanfodol ar gyfer twf, arloesi a chyflawni nodau eich busnes.  Bydd y Gweithdy Ysgrifennu Grantiau hwn yn trafod yr hanfodion ac yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi lywio’r tirlun cyllido a llunio cynigion cymhellol, i’ch cefnogi i anelu at eich targed cyllido.

Dysgwch gan y tîm – bydd y gweithdy yn rhoi arweiniad ymarferol ac yn cynnwys:

  • Deall beth yw grant
  • Sut i ddod o hyd i’r grant cywir i chi
  • Paratoi i ysgrifennu cynnig grant
  • Ysgrifennu cynnig grant cymhellol
  • Monitro eich cais am grant

Manylion y gweithdy

Dyddiad: 25 Chwefror 2025

Amser: 5-8pm

Lleoliad: Tŵr Redwither, Stad Ddiwydiannol Wrecsam.

Dyddiad: 6 Mawrth 2025

Amser: 10am-1pm

Lleoliad: Tŵr Redwither, Stad Ddiwydiannol Wrecsam, LL13 9XR

Pam dod?

  • Dysgwch sgiliau a gwybodaeth ymarferol sy’n uniongyrchol berthnasol i’ch gweithgareddau ariannu
  • Rhwydweithiwch gyda chydweithwyr busnes proffesiynol a chyllidwyr posibl
  • Derbyniwch gyngor ac arweiniad gan y tîm a oruchwyliodd Grant Busnes Wrecsam, pobl fusnes broffesiynol sy’n brofiadol wrth ysgrifennu cynigion, a chynrychiolwyr Busnes Cymru.
  • Rhowch hwb i’ch cyfle o sicrhau’r cyllid sydd ei angen arnoch i gyflawni amcanion eich busnes
  • Cyfle i ddysgu am – a manteisio ar – gymorth Busnes Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am bwysigrwydd yr Addewidion Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb

Dim ond hyn a hyn o seddi sydd ar gael, felly cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle drwy e-bostio business@wrexham.gov.uk

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Y cyfnod ymgeisio diweddaraf ar gyfer CFfG yn agor – grantiau ar gael o £50k hyd at £700k.

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

Rhannu
Erthygl flaenorol Digwyddiad cyflwyniad ‘Yn ei Blodau’ Digwyddiad cyflwyniad ‘Yn ei Blodau’
Erthygl nesaf Annog trigolion Wrecsam i ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru Annog trigolion Wrecsam i ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English