Efallai eich bod wedi clywed y newyddion da diweddar ein bod wedi sicrhau £1.52 miliwn gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer cynllun treftadaeth treflun, a gaiff ei gyflawni yn Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam ar gyfer adfywio treftadaeth.
Yn ogystal â chyllid y Loteri Genedlaethol, rydym hefyd wedi sicrhau cyllid o ffynonellau eraill.
Rydym wedi derbyn £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella eiddo, drwy’r Rhaglen Adfywio Targedu Buddsoddiad, sydd â’r nod o wella eiddo drwy ddarparu cyllid llenwi bwlch i feddianwyr a pherchnogion, gan ddod a gofodau masnachol gwag yn ôl i ddefnydd busnes.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae’r rhaglen yn cynnwys grantiau adeiladu, grantiau gwella a datblygu eiddo pwysig.
Gyda’r ddau brosiect yn rhedeg gyda’i gilydd, a gyda’r amrywiaeth o gymorth adfywio sydd ar gael, rydym yn gwahodd busnesau canol y dref i ddigwyddiad galw heibio yn y gofod hyblyg yn Tŷ Pawb, Ffordd Caer, Wrecsam, o 3pm ddydd Gwener, 29 Tachwedd.
Yn ogystal â pherchnogion yr adeiladau hynny sydd wedi cael eu nodi ar gyfer gwelliannau o dan y cynllun treftadaeth treflun, rydym hefyd yn gwahodd busnesau eraill i weld lle allwn ni hybu cyfleoedd adfywio posibl.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i tbs@wrexham.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN