Os oes gennych chi brofiad o weithio ym maes gofal iechyd, yna mae’r digwyddiad yma i chi!
Fe fydd Cymunedau am Waith a Mwy Wrecsam ac Adran Gwaith a Phensiynau yng nghanolfan Tŷ Pawb ddydd Mercher 4 Rhagfyr, rhwng 10am-1pm yn cynnal digwyddiad gwybodaeth a recriwtio i’r rheini sydd â phrofiad mewn amgylchedd iechyd neu ofal, a/neu Lefel 2 NVQ/QCF mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gyfwerth.
Fe fydd y digwyddiad yma’n rhoi cyfle i chi siarad gyda staff o Ysbyty Maelor Wrecsam a dysgu mwy am y swyddi sydd ar gael gyda Cymunedau am Waith a Mwy Wrecsam ac Adran Gwaith a Phensiynau. Fe fyddan nhw hefyd yn gallu eich helpu gyda cheisiadau, felly os oes gennych chi un, dewch â chopi o’ch CV gyda chi.
Meddai Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae’r digwyddiad yma’n gyfle perffaith i ddysgu mwy am y swyddi yn y sector gofal iechyd ac mae’n gyfle unigryw i gael cefnogaeth gyda ffurflenni cais. Os oes gennych chi brofiad yn y sector, buaswn yn eich annog i ddod draw a manteisio ar bopeth sydd ar gael.”
Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.