Bydd Mosg Wrecsam ar Ffordd Grosvenor ar agor i bawb fel rhan o diwrnod “Visit My Mosque” ar ddydd Sul, Mawrth 2.
Felly galwch draw, unrhyw bryd rhwng 11am a 3pm.
Bydd teithiau yn cael eu cynnal o amgylch y mosg trwy gydol y dydd (ar wahân i gyfnod byr rhwng 1pm a 1.15pm). Bydd ymddiriedolwyr ac aelodau yno i ateb cwestiynau a bydd diodydd a byrbrydau cartref ar gael.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Dywedodd Dr Jishi o Fosg Wrecsam: “Rydw i’n edrych ymlaen unwaith eto at ddal i fyny â hen ffrindiau a rhai newydd, sydd am ganfod ychydig bach mwy am ein Mosg a’n ffydd a sut yr ydym i gyd yn rhan o gymuned Wrecsam.”
Felly dewch draw i weld y bywyd newydd sydd wedi’i anadlu i mewn i Sefydliad y Glowyr.
Mae diwrnod ‘Visit My Mosque’ yn fenter genedlaethol a hwylusir gan Gyngor Mwslimiaid Prydain er mwyn annog dros 250 o fosgiau ledled y DU i gynnal diwrnodau agored i groesawu cymdogion o bob ffydd ac anffyddwyr, gan greu pontydd rhwng cymunedau.
Er bod diwrnodau agored wedi bod yn cael eu cynnal mewn mosgiau ym Mhrydain ers degawdau, mae ‘Visit My Mosque’ yn galluogi mosgiau i fod yn rhan o ddigwyddiad cenedlaethol lle gall mosgiau agor eu drysau gyda’i gilydd ar yr un diwrnod.
Ar gyfer 2019, bydd y diwrnodau agored yn cefnogi Cadw Prydain yn Daclus.
Dwedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Pencampwr Amrywiaeth y Cyngor: “Rwyf eisiau ddeud diolch i Fosg Wrecsam am gymryd rhan yn y diwrnod ‘Visit My Mosque’, a bysai’n annog unrhyw un arall ag sy’n awyddus i ddysgu fwy am y mosg a’r rôl mae’n chwarae.
“Rwyf wedi ymweld â’r mosg nifer o weithiau, ac wedi cael croeso cynnes bob tro – ac mae fy ymweliadau gwastad wedi bod yn ddiddorol.”
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynglyn a’r diwrnod (Dolen gyswllt Saesneg).
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU