A oes gennych chi ddiddordeb mewn chwaraeon anabledd? Efallai eich bod chi’n ofalwr, yn ffrind neu’n berthynas i rywun anabl sydd eisiau rhoi cynnig ar chwaraeon o’r fath? Neu efallai mai chi sydd â’r anabledd ac eisiau rhoi cynnig ar chwaraeon, ond ddim yn siŵr iawn lle i ddechrau?
Bydd y Gyfres insport, sy’n dathlu chwaraeon anabledd, yn cynnal digwyddiad ym Mharc Eirias, Bae Colwyn, Conwy, ddydd Sul, 21 Hydref – ac mae croeso i bawb o bob oedran, o bob lefel gallu, beth bynnag yw eu hamhariad.
Mae Swyddogion yng Nghyngor Wrecsam wedi bod yn helpu i drefnu’r digwyddiad hwn sy’n rhad ac am ddim, ac rydym yn annog pobl ar draws Gogledd Cymru i ddod draw i roi cynnig ar yr holl chwaraeon sydd ar gael.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Bydd dros 20 o chwaraeon cynhwysol i roi cynnig arnynt, gan gynnwys gymnasteg, boccia, pêl-fasged cadair olwyn, rygbi, tennis, seiclo, saethyddiaeth a nofio.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru bellach yn cynnig miliwn o gyfleoedd y flwyddyn i bobl anabl ar draws Cymru. Mae’r Gyfres insport, sy’n teithio ledled Cymru, yn darparu cyfle perffaith i bobl roi cynnig ar chwaraeon a darganfod mwy am yr holl glybiau lleol y gallant ymuno â hwy.
Dywedodd Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru, “Mae bod â 24 o bartneriaid Corff Llywodraethu sy’n darparu cyfleoedd i dros 700 o blant oedran ysgol a phobl ifanc a 150 o aelodau’r gymuned, yn brawf o’r cryfhad yn yr athroniaeth o gynhwysiant o fewn Chwaraeon Cymru.
“Mae hon yn un o gyfres o ddigwyddiadau insport ar draws Cymru, ac nid yn unig y mae’n gyfle gwych i deuluoedd, unigolion a grwpiau ddod draw i ddefnyddio’r cyfleusterau gwych sydd gennym a chael blas ar ystod o weithgareddau gyda chlybiau lleol, mae hefyd yn rhoi’r cyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion anabl gael cipolwg ar eu potensial.
Mae’r gyfres insport yn bwynt cychwynnol i newid bywydau – boed hynny’n cael ei gymell gan y mwynhad o gymryd rhan neu’r cyffro o fynd ymlaen i gystadlu.”
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Mark Richards ar 01492 575593 neu dros e-bost ar Mark.richards@conwy.gov.uk.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU