Wrth i gostau byw gynyddu, rydym yn ymwybodol y bydd nifer o’n tenantiaid a’n preswylwyr yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Mae adran dai Cyngor Wrecsam wedi uno ag asiantaethau a sefydliadau eraill i lunio cyfres o ddigwyddiadau costau byw a lles ar draws y fwrdeistref, lle bydd tenantiaid yn gallu cael mynediad at wybodaeth gan amrywiaeth o sefydliadau partner ar bynciau megis effeithlonrwydd ynni, effeithlonrwydd dŵr a lleihau biliau, cyngor am ddyledion a chymorth ariannol.
Bydd tîm Cymunedau am Waith Wrecsam ar gael i gynorthwyo pobl i gael sgiliau cyflogaeth, o gynorthwyo â pharatoi CV a sgiliau cyfweliad i allu cyfeirio tenantiaid at swyddi gwag yn yr ardal.
Bydd Swyddogion Cynhwysiant Ariannol o adran dai y Cyngor ar gael i gynorthwyo tenantiaid lle bynnag bo’n bosibl a’u helpu i gynyddu eu hincwm.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai, “Mae’r Cyngor, yn benodol yr adran dai, yn ymwybodol iawn o’r effaith mae’r argyfwng costau byw yn ei chael ar ein tenantiaid ac rydym yn awyddus iawn i gefnogi ein tenantiaid lle bynnag y gallwn. Mae gan bob swyddfa ystadau lleol Swyddog Cynhwysiant Ariannol a’u rôl yw helpu tenantiaid i gynyddu eu hincwm.
“Hyd at fis Ebrill 2022, maen nhw wedi darparu cymorth i fwy na 775 o denantiaid ac wedi cael effaith gadarnhaol ar sefyllfa ariannol tenantiaid a’u lles meddyliol. Rydym yn awyddus i hyrwyddo’r gwasanaeth hwn a bydd Swyddogion Cynhwysiant Ariannol ar gael yn y digwyddiadau sydd wedi’u trefnu, a byddwn yn annog unrhyw un sy’n ei chael yn anodd i naill ai fynychu un o’r digwyddiadau, neu gysylltu â’u swyddfa dai leol.”
Dyddiadau, amseroedd a lleoliadau’r digwyddiadau yw:
Dydd Llun 7 Tachwedd 9am – 1pm Canolfan Goffa Brynteg
Dydd Llun 14 Tachwedd 1 – 3pm Ty Pawb
Dydd Gwener 18 Tachwedd 10am – 1pm Canolfan Cymunedol Gwersyllt
Dydd Llun 21 Tachwedd 1 – 4pm Canolfan Cymunedol Johnstown
Dydd Iau 24 Tachwedd 1pm – 3pm Canolfan Hamdden Plas Madoc
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI