Mae ymwelwyr i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn cael eu hatgoffa mai dim ond un person a ganiateir i adael y cerbyd yn ein safleoedd, yn dilyn nifer o ddigwyddiadau lle mae nifer o bobl wedi gadael cerbyd i ailgylchu gwastraff.
Ers i’n canolfannau ailgylchu ailagor, rydym wedi gorfod rhoi rheolau llym ar waith a dyma un o’r rheolau y dylid ei ddilyn i gadw pawb yn ddiogel.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Wrth gyrraedd ein safleoedd, mae staff yn atgoffa ymwelwyr o hyn, ond mae rhai yn parhau i dorri’r rheol ac ar rai achlysuron, wedi bod yn amharchus tuag at ein staff.
Bydd unrhyw un sy’n ymosod ar staff yn cael eu gwahardd o’n canolfannau ailgylchu ac mae’n bosibl yr hysbysir yr heddlu.
Mae gennym safbwynt dim goddefgarwch tuag at gam-drin staff yn ein canolfannau ailgylchu ac mae staff yn gwisgo camerâu ar eu cyrff i’n help ni adrodd i’r heddlu am unrhyw unigolion sy’n amharchu ein staff.
“Dilynwch y rheolau, nid ydym eisiau cau ein safleoedd eto”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd y rheol un person yn ran bwysig i’n caniatáu ni i ailagor ein canolfannau ailgylchu yn ddiogel, felly mae’n siomedig bod rhai pobl wedi bod yn torri’r rheol hwn yn fwriadol a cham-drin ein staff.
“Parchwch ein staff bob amser yn y canolfannau ailgylchu. Mae camdriniaeth llafar a chorfforol tuag at ein staff yn gwbl annerbyniol a bydd unrhyw un sy’n gwneud hyn yn cael eu gwahardd ac yn cael eu hadrodd i’r heddlu.
“Mae ein neges yn glir: “Dilynwch y rheolau, nid ydym eisiau cau ein safleoedd eto’. Mae’r rheolau er diogelwch pawb. Rydym ni gyd yn gwybod y sefyllfa pan roedd rhaid i ni gau ein canolfannau ailgylchu yn flaenorol, felly cofiwch ddilyn y rheolau a chadw’n ddiogel a chadw ein safleoedd ar agor.
“Rhaid dweud, bod y mwyafrif yn dilyn y rheolau ac yn cadw’n ddiogel yn ein safleoedd, felly diolch i chi am wneud hynny.”
YMGEISIWCH RŴAN