Ni fydd newidiadau i gasgliadau biniau ar ddydd Llun Gŵyl y Banc (5 Mai).
Felly, os mai dydd Llun yw eich ‘diwrnod bin’ arferol, byddwn yn dal i wagio’ch bin a chasglu eich ailgylchu fel arfer yr wythnos nesaf… Ni fydd gŵyl y banc yn effeithio ar unrhyw beth.
Peidiwch â cholli casgliad biniau – cofrestrwch ar gyfer negeseuon e-bost i’ch atgoffa
Cofrestrwch ar gyfer ein e-byst atgoffa am gasgliadau biniau i gael e-bost y diwrnod cyn eich casgliad nesaf.
Gallwch gael tips ailgylchu a gwybodaeth yn syth i’ch mewnflwch!
Gallwch hefyd gofrestru i dderbyn awgrymiadau a chyngor ailgylchu, i’ch helpu i gael y gorau o’ch ailgylchu.
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Os ydych chi’n gwneud bach o waith twtio dros ŵyl y banc, cofiwch y bydd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor.
Mae’r safleoedd yn cynnig ystod ehangach o opsiynau. Er enghraifft, gallwch ailgylchu podiau coffi, fêps a chartonau, ynghyd â phren, plastigau caled a metelau.
Mae gan y tri safle hefyd ardal ar gyfer eitemau y gellid eu hailddefnyddio – i helpu i godi arian ar gyfer siop ailddefnyddio Hosbis Nightingale House yn Bryn Lane.
Felly os oes gennych hen feic sydd mewn cyflwr da, neu ddarn o ddodrefn er enghraifft, beth am ei roi o’r neilltu ar gyfer y siop hosbis?