Wrexham Playday Sandpit

Wythnos i heddiw fydd y Diwrnod Chwarae – y diwrnod mwyaf ar gyfer plant ar draws Wrecsam i ddod ynghyd a chael amser gwych wrth wlychu a baeddu yn y broses.

Mae’r digwyddiad yn dychwelyd i Lwyn Isaf a Sgwâr y Frenhines ar ôl dwy flynedd i ffwrdd yn sgil Covid ac mae’r trefnwyr yn bwriadu ei wneud yn ddigwyddiad i’w gofio ar gyfer pawb.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost

Bydd y bocs tywod anferth yn ôl ynghyd â chyfleoedd i adeiladu cuddfa, gwibgerti, rhoi cynnig ar y cwrs rhwystrau, osgoi’r llawr lafa, celf, gemau, pêl-fasged a digonedd o ddŵr wrth gwrs!

Mae Diwrnod Chwarae ar gyfer pobl o bob oedran, gan gynnwys babanod a phlant bach, plant hÅ·n, pobl yn eu harddegau, rhieni, gweithwyr proffesiynol a neiniau a theidiau, sydd i gyd yn cael gwahoddiad i ymuno yn y digwyddiad chwareus ac am ddim hwn.

Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn dod mewn hwyliau chwareus a dillad nad ydych yn poeni eu gwlychu a’u baeddu. Mae hefyd yn ddiwrnod gwych i gael picnic.

Nod y Diwrnod Chwarae yw tynnu sylw at hawl plant i chwarae, gan annog pobl i gydnabod gwerth chwarae i blant, eu teuluoedd a’u cymunedau lleol. Drwy wneud hyn, mae digwyddiad Diwrnod Chwarae Wrecsam yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau bod plant y fwrdeistref sirol gyfan yn cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH