Diolch yn fawr eto i Allington Hughes Law sydd wedi noddi’r Goeden Nadolig hardd sy’n coroni’r naws Nadoligaidd yng nghanol y dref.
Cyrhaeddodd y goeden ddoe ac mae’n barod rŵan ar gyfer cynnau’r goleuadau nos yfory.
Meddai Amanda Davies, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo: “Mae’r goeden yn edrych yn anhygoel ac ar ran pawb hoffwn ddiolch yn fawr i Allington Hughes am eu cefnogaeth barhaus i’n trefniadau Nadolig. Caiff y goleuadau eu cynnau yfory a chaiff pawb weld y goeden wedi’i goleuo am y tro cyntaf”
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Dywedodd Alison Stace, Rheolwr Gyfarwyddwr Allington Hughes: “Mae’n bleser bob amser gwybod ein bod yn gwneud rhywbeth positif ac ymarferol i gefnogi canol y dref. Ymwelodd degau o filoedd o bobl â’r dref y llynedd ar gyfer yr holl ddigwyddiadau gwahanol ac rydw i’n siŵr y bydd eleni hyd yn oed yn fwy llwyddiannus a mawreddog nag erioed.”
Mae cynnau’r goleuadau yn nodi dechrau’r cyfnod siopa Nadolig yng nganol y dref a’r gweithgareddau Nadolig sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd o flwyddyn i flwyddyn. O’r Farchnad Fictoraidd i’r Pentref Nadolig, mae rhywbeth ar gael i bawb eleni.
Cofiwch y gallwch barcio am ddim ym meysydd parcio y cyngor yng nghanol y dref dros y Nadolig, ac eithrio maes parcio Tŷ Pawb – gallwch ddarllen mwy yma
Gallwch ganfod mwy am yr hyn sy’n digwydd yn Wrecsam trwy ddefnyddio’r dolenni cyswllt isod:
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN