Hoffem oll ddymuno pob lwc i bobl ifanc Ysgol Clywedog sy’n cystadlu yng nghystadleuaeth derfynol ‘Quadcopter Challenge’ Raytheon heddiw yn RAF Cosford.
Y ‘Quadcopter Challenge’ yw gweithgaredd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg blaenllaw Raytheon UK, gyda’r nod o hyrwyddo buddion addysg Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg mewn ysgolion ledled y DU.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Drwy fentoriaeth gan lysgenhadon Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg Raytheon UK, mae timau ysgolion yn cael profiad ymarferol o ddylunio, rheoli prosiectau, cyflwyniadau, technegau peirianneg ac aerodynameg. Maen nhw hefyd yn cael cipolwg ar gymwysiadau bywyd go iawn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Un ffordd yn unig yw hyn y mae Raytheon UK yn anelu at fynd i’r afael â’r angen cynyddol i lenwi arfaeth o dalent peirianneg ar gyfer dyfodol economi’r DU.
Dewiswyd thema 2019 Technoleg o Amgylch y Byd i dynnu sylw at bwysigrwydd cydweithredu byd-eang ar gyfer datblygu technoleg a rhannu syniadau. Gyda chefnogaeth llysgenhadon Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg Raytheon, mae myfyrwyr wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ers wythnosau i adeiladu systemau aer pedair llafn, aml-rotor, wedi’u treialu o bell sy’n gallu llywio cyrsiau rhwystrau heriol.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: Rwyf am longyfarch Ysgol Clywedog am gyrraedd y rownd derfynol ac mae pawb ohonom yn Wrecsam yn dymuno pob lwc yng nghystadleuaeth heddiw. Mae’n wych gweld pobl ifanc Wrecsam yn cymryd rhan yn y maes arloesol hwn ac rydyn ni i gyd yn falch iawn dros y bobl ifanc hyn – peirianwyr y dyfodol.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN