Fe hoffem ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr eleni gyda diolch anferthol i bawb ohonoch sydd wedi gwirfoddoli a darparu achubiaeth hanfodol i’n cymunedau yn ystod pandemig Covid-19.
Heddiw, yn fwy nag erioed, fe allwn werthfawrogi’r cyfraniad enfawr maent yn ei wneud i fywydau pobl eraill. Hebddyn nhw, fe fyddai yna alw enfawr ar wasanaethau cyhoeddus, ac ni fyddai modd ateb y galw hwnnw’n effeithlon a chyflym.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae gwirfoddolwyr bob amser yn brysur yn helpu pobl eraill, ond ers pandemig Covid-19 mae llawer mwy wedi gwirfoddoli i helpu ble gallant.
Mae nifer o wirfoddolwyr wedi bod yn brysur yn danfon presgripsiynau, parseli bwyd a thaflenni, yn ffonio a siopa’n rheolaidd ar gyfer y rhai sy’n cael eu gwarchod neu’n ddiamddiffyn, a darparu sicrwydd i’r gymuned.
“Mae gwaith gwirfoddolwyr yn amhrisiadwy”
Mae Prif Weithredwr, Ian Bancroft ac Arweinydd y Cyngor, Mark Pritchard yn cytuno: “Mae gwaith gwirfoddolwyr yn amhrisiadwy bob amser, ond cafodd y gwaith ei groesawu a’i werthfawrogi’n benodol dros yr wythnosau diwethaf wrth iddynt ddarparu achubiaeth i lawer o bobl yn Wrecsam sydd yn cael eu gwarchod neu sy’n ddiamddiffyn. Fe hoffem ddiolch i bob un ohonynt am eu gwaith caled wrth i ni barhau i ddelio â sefyllfa Covid-19.
Mae Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru eisiau ymuno â ni hefyd i ddiolch i’r gwirfoddolwyr sydd yn gweithio mor galed i gefnogi cymunedau ar draws yr ardal.
Dywedasant: “Rydym ni’n cael ein ysbrydoli gan yr haelioni y mae pobl yn ei ddangos ar draws y rhanbarth, ac ni fyddai modd i ni gyflawni cymaint ag ydym ni’n ei wneud heb sgiliau a phrofiad ein holl wirfoddolwyr”.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19