Mae’r pethau olaf i addurniadau Nadolig canol y ddinas bellach wedi cyrraedd yn ddiogel, ac maent yn cael eu paratoi yn barod i gael eu goleuo ar 18 Tachwedd.
Mae’r goeden Pyrwydd Sitca 35 troedfedd o uchder wedi cael ei dewis o Goedwig Elveden, sef prif gyflenwr y DU o goed arddangos yng nghanol dinasoedd.
Mae’r goeden unwaith eto wedi cael ei noddi gan Chapter Court ac fe hoffem ni ddiolch yn fawr iddynt am sicrhau bod gan ganol dinas Wrecsam goeden o’r radd flaenaf!
Dywedodd Ian Stone o brosiect Chapter Court, “Y goeden Nadolig yw canolbwynt holl ddathliadau canol y ddinas ac mae un eleni yn arbennig iawn ac mae hi’n barod i gael ei goleuo er mwyn i’r hen a’r ifanc ei mwynhau. “Mae hi’n anrhydedd cael bod yn noddwr unwaith eto ac rydw i’n edrych ‘mlaen at Nadolig a blwyddyn newydd lwyddiannus a phleserus yng nghanol y ddinas.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Hoffwn ddiolch i Chapter Court am noddi coeden Nadolig Canol y Ddinas unwaith eto, a hoffwn annog pawb i gefnogi ein busnesau trwy siopa’n lleol y Nadolig hwn.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio: “Mae’r goeden Nadolig yn edrych yn wych eleni a bydd ymwelwyr, hen ac ifanc, yn stopio i fwynhau’r olygfa wrth iddyn nhw siopa Nadolig. “Ar ran y Cyngor ac ymwelwyr canol y ddinas, fe hoffwn ddiolch o galon am eich cefnogaeth i ganol ein dinas.”
Mae’r goeden ar Sgwâr y Frenhines, o fewn pellter cerdded hawdd i’r siopau a’r marchnadoedd.
Cofiwch, gallwch barcio am ddim ar ôl 11am ym mhob un o feysydd parcio’r Cyngor yng nghanol y dref, ac eithrio Tŷ Pawb.