Rydym oll yn ymwybodol o’r gwasanaeth hynod bwysig y mae Hosbis Tŷ’r Eos yn ei ddarparu – ar hyd a lled Wrecsam ac yn ehangach yn y Gogledd-ddwyrain.
Mae’r hosbis yn darparu gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol yn rhad ac am ddim i gleifion a’u teuluoedd ar draws ardal eang sy’n ymestyn o Wrecsam, Sir y Fflint a Dwyrain Sir Ddinbych i Abermaw a’r trefi ar y ffin gan gynnwys Croesoswallt a’r Eglwys Wen.
Yn ddiweddar, bu swyddogion o’n tîm tai yn helpu trefnu gwaith adnewyddu ar ran o’r hosbis, gan ddarparu cyfleusterau fel sinc y gellir ei addasu a gwell toiled yn un o ystafelloedd ymolchi’r hosbis.
Roeddem eisiau diolch i’r contractwyr a roddodd eu hamser, eu hadnoddau a’u hymdrech i’r gwaith adnewyddu, gan gyfrannu eitemau fel cypyrddau storio, lloriau, paent, gosodiadau plymio a’r offer newydd.
Cynhaliwyd y gwaith dan y cynllun Houseproud, sy’n helpu perchnogion i gydlynu gwaith y mae angen ei wneud i’w cartrefi ac yn eu rhoi mewn cysylltiad â chontractwyr dibynadwy ag enw da.
Roedd D Nixon Plumbing, Clos-o-Mat Ltd, Polyflor Ltd, Colour Supplies a Travis Perkins i gyd yn gontractwyr a gymerodd ran yn y gwaith, gan gyfrannu cyflenwadau, deunyddiau ac offer yn ogystal â’u hamser a’u harbenigrwydd.
Bu i Synthite o’r Wyddgrug hefyd gyfrannu £2,000 tuag at yr ystafell ymolchi.
Meddai’r Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Hoffwn ddiolch i’r contractwyr hynny a weithiodd ochr yn ochr â staff ein cynllun Houseproud a’r tîm yn Nhŷ’r Eos i ddarparu’r ychwanegiadau a’r gwelliannau gwerthfawr hyn i’r ystafell ymolchi.
“Mae Tŷ’r Eos yn gwneud gwaith anhygoel yn ein cymuned a thu hwnt, ac rydym yn falch iawn o gael eu cefnogi.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR