Mae addurniadau Nadolig canol y ddinas bellach yn gyflawn wedi i’r goeden Nadolig gyrraedd.
Mae’r goeden Pyrwydd Sitca 35 troedfedd o uchder wedi cael ei dewis o Goedwig Elveden, ac mae’n cael ei pharatoi ar hyn o bryd ar gyfer cynnau’r goleuadau ddydd Sadwrn Tachwedd 16.
Am y drydedd flwyddyn o’r bron, mae’r goeden wedi cael ei noddi gan Chapter Court a hoffem ddiolch yn fawr iddynt am sicrhau bod gan ganol dinas Wrecsam goeden o’r radd flaenaf!
Dywedodd Joss Prince o brosiect Chapter Court: “Mae’r goeden Nadolig yn ganolbwynt i addurniadau canol y ddinas a bydd yn barod cyn bo hir i bawb o bob oed ei mwynhau. Mae hi’n anrhydedd i Cwrt Chapter cael bod yn noddwr unwaith eto ac rydw i’n edrych ‘mlaen at Nadolig a blwyddyn newydd lwyddiannus a phleserus yng nghanol y ddinas.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Hoffwn ddiolch i Chapter Court am noddi’r goeden Nadolig yng nghanol y ddinas unwaith eto, a byddwn yn annog pawb i gefnogi ein busnesau drwy siopa’n lleol y Nadolig hwn.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae’r goeden Nadolig yn edrych yn wych eleni ac rydw i’n gobeithio y byddwch i gyd yn stopio i fwynhau’r olygfa wrth i chi siopa Nadolig. Ar ran y Cyngor ac ymwelwyr canol y ddinas, fe hoffwn ddiolch o galon am gefnogaeth Chapter Court i ganol ein dinas.”
Mae’r goeden ar Sgwâr y Frenhines, o fewn pellter cerdded hawdd i’r siopau a’r marchnadoedd.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.