Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Troi’r Goleuadau Nadolig Ymlaen a Diwrnod Hwyliog Nadoligaidd 2024!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Troi’r Goleuadau Nadolig Ymlaen a Diwrnod Hwyliog Nadoligaidd 2024!
Y cyngorPobl a lle

Troi’r Goleuadau Nadolig Ymlaen a Diwrnod Hwyliog Nadoligaidd 2024!

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 15, 2024 10:48 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Goleuadau Nadolig (dau garw’n llusgo sled)
RHANNU

Rydym yn falch o weithio gyda Fair Events Management, Hospis Ty’r Eos, Dôl yr Eryrod a Heart Radio i nodi cychwyn tymor y Nadolig!

Cynnwys
  • Diwrnod Hwyliog Nadoligaidd ar Sgwâr y Frenhines
  • Gorymdaith Llusern Hosbis Tŷ’r Eos a Gweithdai Addurno Llusern
  • Digwyddiad Troi’r Goleuadau Ymlaen Wrecsam- Canolfan Siopa Dôl yr Eryrod
    • 4 – 5pm
    • 5 – 7pm: Digwyddiad diweddglo prif lwyfan

Dewch i ganol dinas Wrecsam ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd – lle bydd digon o bethau’n digwydd i’ch cael chi yn hwyl yr ŵyl, gan gynnwys:

Diwrnod Hwyliog Nadoligaidd ar Sgwâr y Frenhines

Gan ddechrau am 12pm, ymunwch â ni am ddiwrnod llawn o hwyl yr ŵyl, gyda stondinau bwyd blasus, adloniant a gweithgareddau gwyliau ar gyfer pob oedran!

Bydd Fair Events yn darparu reidiau a stondinau gemau, arlwy o fwyd stryd (gan gynnwys dewisiadau fegan), gyda masnachwyr o Farchnad Crefftwyr Wrecsam yn cynnwys:

  • Anrhegion
  • Cacennau a melysfwyd
  • Nwyddau tŷ
  • Eitemau crefft

Gorymdaith Llusern Hosbis Tŷ’r Eos a Gweithdai Addurno Llusern

Cofrestrwch nawr ar gyfer yr Orymdaith Llusernau noddedig! Cofrestrwch eich plentyn am £6 yn unig (mae oedolion sy’n dod gyda chi yn mynd am ddim) a derbyniwch lantern papur a golau batri y gellir ei addasu.

Gallwch gofrestru trwy wefan Hosbis Tŷ’r Eos.

Casglwch ac addurnwch eich llusern yn ein Gweithdai Gwneud Llusernau yn Chapter Court (7-9 Heol y Frenhines, LL11 1AP):

  • Dydd Sadwrn 9 Tachwedd am 12:30pm – 3:30pm
  • Dydd Sadwrn 16 Tachwedd am 12: 30pm – 3:30pm

Am 4:30pm, bydd yr Orymdaith Llusernau a Goleuadau yn dechrau – o Sgwâr y Frenhines gan orffen yn Nôl yr Eryrod.

Digwyddiad Troi’r Goleuadau Ymlaen Wrecsam- Canolfan Siopa Dôl yr Eryrod

Bydd Oli, cyflwynydd Heart Radio Gogledd Cymru, yn cyflwyno rownd derfynol ar y llwyfan gydag amrywiaeth o gerddoriaeth ac adloniant byw.

4 – 5pm

Rebecca Royal, Urban Fusion (dawns)

5 – 7pm: Digwyddiad diweddglo prif lwyfan

Yn cynnwys: Ben Ofoedu (Phats & Small) – seren y sioe, Dene Michael (Black Lace), Kevin Davy White, Passmore, Lois

Dywedodd Cyng Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywiad “Fe gawn ni hwyl a sbri yn y digwyddiad blynyddol hwn sy’n cychwyn dathliadau’r Nadolig yn Wrecsam gyda marchnad Fictoraidd am bedwar diwrnod, cyn i farchnadoedd Fictoraidd wedi’u hadnewyddu agor ddiwedd y mis.

“Bydd yno rywbeth at ddant pobl o bob oed gyda reidiau, stondinau, bwyd a diod a digonedd o adloniant i’r teulu oll.

“Mae’n gyfle gwych hefyd i gefnogi ein busnesau lleol ynghanol y ddinas.

“Rwy’n arbennig o falch ein bod yn gweithio â Hosbis Tŷ’r Eos unwaith eto i godi arian hollbwysig iddynt, ac rwy’n annog teuluoedd i ddod draw i’r gweithdai gwneud llusernau ac ymuno â’r orymdaith i greu mwy o hud y Nadolig.”


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Marchnadoedd wedi’u hadnewyddu yn Wrecsam i agor ym mis Tachwedd ochr yn ochr â Marchnad Nadolig Fictoraidd

Rhannu
Erthygl flaenorol Christmas tree Diolch yn fawr i Chapter Court am goeden Nadolig eleni
Erthygl nesaf Library books Rhowch gymorth i ni lunio dyfodol llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English