Aeth staff o 4 siop Tesco i Dŷ Mawr ar gyfer eu Diwrnod Gweithlu Cymunedol yn ddiweddar i ymuno â Cheidwaid Tŷ Mawr.
Bu’r tîm yn helpu’r ceidwaid i glirio’r ardal oedd wedi gordyfu ac yn edrych yn flinedig o amgylch y Colomendy fel y gellir ei ddatblygu yn gynefin sy’n gyfeillgar i bryfed fel rhan o’r gwaith ar y maes parcio newydd sy’n cael ei wneud yn y parc.
Bydd yr ardal o amgylch y maes parcio yn cael ei dirlunio gyda ‘banciau gwenwyn a gloÿnnod byw’ o flodau gwyllt a bydd ardal y Colomendy yn gartref i westy newydd i bryfed.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Bu Parc Gwledig Tŷ Mawr yn llwyddiannus wrth ddenu grant gan y Cynllun Grant Cyfalaf Seilwaith Gwyrdd er mwyn gwella’r maes parcio haf yn unig a’i droi’n adnodd parcio y gellir ei ddefnyddio drwy’r flwyddyn.
Bydd pafin ecogyfeillgar yn y maes parcio fydd yn caniatáu dŵr i ddraenio ac yn galluogi gwair a blodau gwyllt i dyfu trwyddo.
Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr; gweithiodd tîm Tesco yn arbennig o galed i glirio’r ardal a rhoi ffens newydd yn ei lle i ddiffinio’r maes parcio oddi wrth yr ardal bicnic.
Ar ôl cinio gwahanodd tîm Tesco ac aeth eu hanner ymlaen yn y Colomendy tra bu’r hanner arall yn tacluso’r cerfluniau coed a’r tai anifeiliaid gyda chôt newydd o baent yn ardal profiad anifeiliaid bach y parc.
Hoffai’r Ceidwaid ddiolch yn fawr iawn i wirfoddolwyr staff Tesco am eu gwaith caled gwerthfawr.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION