Wrexham Recycling Facts

Bob dydd yn ystod yr wythnos ailgylchu (24-30 Medi), rydym wedi bod yn cyhoeddi ffaith ailgylchu ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Rhag ofn eich bod wedi eu methu, dyma drosolwg sydyn i chi…

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Ffaith 1: Oeddech chi’n gwybod y gallwch ailgylchu eich bagiau te a’ch gronynnau coffi yn eich bocs gwastraff bwyd?

Ffaith 2: Gellir ailgylchu esgidiau rhedeg (neu unrhyw esgidiau) mewn mannau ailgylchu lleol.

Ffaith 3: Mae’r rhan fwyaf ohonom yn Wrecsam yn golchi a chywasgu ein tuniau, caniau a photeli plastig yn barod ar gyfer eu casglu.

Ffaith 4: Y llynedd fe ailgylchodd pobl yn Wrecsam 4,000 tunnell o wydr cymysg.

Ffaith 5: Gellir ailgylchu dros 80% o wastraff aelwydydd (bag du/bin olwyn).

Ffaith 6: Bydd ailgylchu 1 botel wydr ychwanegol yn atal rhyddhau CO2 sydd gyfystyr â’r hyn a ryddheir o 4,000 o geir i’r atmosffer.

Ffaith 7: Gellir mynd â sbectol (neu wydrau llygaid) i’ch optegydd lleol er mwyn eu hailddefnyddio dramor.

Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.

DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU