Y tymor hwn mae disgyblion ym mlwyddyn 3 a 4 yn Ysgol Min y Ddol wedi bod yn dysgu am fod yn entrepreneuriaid, gan wella cysylltiadau cymunedol a defnyddio’r Gymraeg yn y broses.
Cafodd y disgyblion gyllideb fach a chawsant y dasg o hysbysebu a chynnal bore coffi cymunedol a pharti ysgol.
Roedd y disgyblion wedi hysbysebu’r bore coffi yn ddwyieithog yn yr ardal ac o ganlyniad roedd yna nifer dda yn bresennol. Roedd y disgyblion yn derbyn archebion yn y Gymraeg (ac yn helpu gwesteion gyda’u harchebion os oedd ganddynt ychydig neu ddim Cymraeg).
Roedd ambell un o’r mynychwyr wedi eu plesio gyda gwaith y disgyblion ac yn nodi –
“Mae’r plant yn bleser. Maent yn ddymunol ac yn defnyddio eu Cymraeg i’n helpu ni. Diolch.”
“Bellach, rwy’n deall beth maent yn ei olygu am yr X Factor pan maent yn dweud wow – mae gan yr ysgol hon y ffactor wow, neu falle dylwn i ddweud, X Factor. Mae’n fendigedig”
Roedd y parti ysgol cyfan yn y prynhawn hefyd yn llwyddiant gyda disgyblion yn cael llawer o hwyl. Roedd y disgyblion yn Dosbarth Draenog wedi cysylltu â busnes lleol, Happy Hire, i gael pris ar gastell bownsio ar gyfer y prynhawn ac wrth glywed y plant a deall eu cais, roeddent wedi llogi’r castell yn garedig am ddim ar gyfer yr achlysur.
Dywedodd y Pennaeth yn Ysgol Min y Ddol, Mrs Claire Rainer: “Rydym i gyd yn falch iawn o gyflawniadau’r disgyblion. “Maent wedi llwyddo i wneud elw o £217.89 y gallent ei ddefnyddio fel y dymunent – nhw piau fo wedi’r cyfan! “Nid yn unig mae’r digwyddiad wedi gwneud elw, mae hefyd wedi hybu’r Gymraeg o fewn ein cymuned a chryfhau’r cysylltiad a sefydlwyd eisoes rhwng Ysgol Min y Ddol a’r gymuned.”
Meddai Stephen Jones, Swyddog Y Gymraeg: “Dyma enghraifft wych o sut mae trosglwyddiad iaith yn gweithio’r ddwy ffordd. “Mae gweithgareddau cymunedol fel hyn yn hanfodol i normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg yn anffurfiol ac atgyfnerthu’r ffaith fod y Gymraeg yn sgil gwerth chweil a deniadol ar gyfer rhagolygon gyrfa. “Da iawn bawb wnaeth gymryd rhan yn Ysgol Min y Ddol.”







