Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nifer syfrdanol o 27,844 o gwsmeriaid credydau treth yn adnewyddu drwy ap CThEF
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Nifer syfrdanol o 27,844 o gwsmeriaid credydau treth yn adnewyddu drwy ap CThEF
Pobl a lleArall

Nifer syfrdanol o 27,844 o gwsmeriaid credydau treth yn adnewyddu drwy ap CThEF

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 11, 2023 3:09 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
credydau treth
RHANNU

Yn ôl Cyllid a Thollau EF (CThEF), mae bron i 28,000 o gwsmeriaid wedi defnyddio ap CThEF i adnewyddu eu hawliad blynyddol am gredydau treth. 

Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy’n gweithio drwy roi cymorth ariannol sydd wedi’i dargedu, ac mae dros 1.5 miliwn o gwsmeriaid wedi cael eu pecynnau adnewyddu. Man ganddynt hyd at 31 Gorffennaf i adnewyddu neu ddiweddaru eu hawliad er mwyn gwneud yn siŵr bod eu taliadau yn parhau. 

Mae CThEF yn annog cwsmeriaid i adnewyddu drwy ap CThEF – mae’n ffordd gyflym a hawdd o sicrhau eu bod yn parhau i gael y taliadau y mae ganddynt hawl iddynt. 

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid: 

“Bydd y dyddiad cau ar gyfer adnewyddu hawliadau am gredydau treth yma cyn pen dim, ac mae adnewyddu drwy ap CThEF yn ffordd gyflym a hawdd o wneud hynny. Mae’r ap yn cynnig sicrwydd i gwsmeriaid o ran cywirdeb a pharhad eu taliadau.”  

Mae ap CThEF yn rhad ac am ddim, yn syml, yn ddiogel, ac yn galluogi cwsmeriaid i gael mynediad uniongyrchol at eu cyfrifon credydau treth ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio ffôn clyfar neu lechen. Does dim rhaid ffonio CThEF na lenwi a phostio unrhyw ffurflenni mwyach. 

Gall cwsmeriaid gael mynediad at wybodaeth am eu credydau treth drwy ap CThEF er mwyn: 

  • adnewyddu eu hawliad am gredydau treth 
  • diweddaru eu manylion personol 
  • rhoi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau 
  • bwrw golwg dros eu hamserlen ar gyfer taliadau credydau treth, a’i gwirio 
  • bwrw golwg dros gofnod o daliadau mor belled 

Mae CThEF wedi rhyddhau fideo i esbonio sut y gall cwsmeriaid credydau treth ddefnyddio ap CThEF i fwrw golwg dros eu manylion, eu rheoli a’u diweddaru. 

Gall cwsmeriaid lawrlwytho ap CThEF yn rhad ac am ddim o’r siop apiau ar eu ffôn clyfar. Ar ôl lawrlwytho’r ap a mewngofnodi iddo, mae opsiynau i ddefnyddwyr sefydlu a dewis dull adnabod yr wyneb, dull adnabod ôl bys, neu bin 6 digid er mwyn cael mynediad cyflym a diogel i’w manylion.   

Gall cwsmeriaid sy’n defnyddio ap CThEF hefyd wneud y canlynol: 

  • rheoli eu Budd-dal Plant yn ogystal â bwrw golwg dros eu tystiolaeth o hawl, bwrw golwg dros y 5 taliad diweddaraf, a diwygio’u manylion banc
  • rheoli eu harian – gwirio’u tâl, gwirio’u cod treth a chael amcangyfrif o’u henillion 
  • dod o hyd i’w rhif Yswiriant Gwladol, a’i gadw 
  • cael pob neges a llythyr gan CThEF, a’u cadw 
  • gosod nodynnau atgoffa i dalu Hunanasesiad 
  • creu cyfrif Cymorth i Gynilo 

Gall cwsmeriaid hefyd fwrw golwg dros eu hawliadau am gredydau treth, eu hadnewyddu a’u rheoli ar-lein yn GOV.UK. 

Bydd credydau treth yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol

Bydd credydau treth yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol erbyn diwedd 2024. Bydd cwsmeriaid sy’n cael credydau treth yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), neu’r Adran Cymunedau (DfC) yng Ngogledd Iwerddon, yn rhoi gwybod iddynt pryd i hawlio Credyd Cynhwysol. Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn hawlio erbyn y dyddiad cau a ddangosir yn y llythyr er mwyn parhau i gael cymorth ariannol. Mae hyn oherwydd bydd eu credydau treth yn dod i ben hyd yn oed os ydynt yn penderfynu peidio â hawlio Credyd Cynhwysol. Fodd bynnag, nid oes angen aros am y llythyr hwn – gall cwsmeriaid wneud cais i symud draw i Gredyd Cynhwysol yn gynt, os hoffent. 

 Wrth i’r dyddiad cau nesáu ar gyfer adnewyddu, gall cwsmeriaid fod yn fwy tebygol o gael eu twyllo gan sgamwyr. Mae CThEF yn eu rhybuddio i bwyllo os bydd rhywun yn cysylltu â nhw gan honni ei fod yn gweithio i CThEF ac yn gofyn iddynt drosglwyddo arian ar frys neu roi gwybodaeth bersonol. Mae sgamiau treth yn gallu amrywio. Mae rhai yn cynnig ad-daliad, mae rhai yn honni bod yn rhaid i chi ddiweddaru hen fanylion, ac mae rhai hyd yn oed yn bygwth eich arestio am osgoi treth. Mae CThEF hefyd yn annog cwsmeriaid i beidio â rhannu’u manylion mewngofnodi ar gyfer CThEF ar unrhyw adeg – gall rhywun ddefnyddio’r manylion hyn i gyflawni twyll. Cynghorir cwsmeriaid i wirio cyngor CThEF ynghylch sgamiau ar GOV.UK. 

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Mae’n bosibl yr hoffech ddarllen hefyd am Mae ap CThEF ar gael yn Gymraeg – Newyddion Cyngor Wrecsam

Tax credits
Rhannu
Erthygl flaenorol Business Breakfast Llwyddiant Brecwast Busnes Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn Net World Sports
Erthygl nesaf Disgyblion gydag ysbryd entrepreneuraidd yn hybu’r Gymraeg Disgyblion gydag ysbryd entrepreneuraidd yn hybu’r Gymraeg

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English