Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Disgyblion gydag ysbryd entrepreneuraidd yn hybu’r Gymraeg
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Disgyblion gydag ysbryd entrepreneuraidd yn hybu’r Gymraeg
Busnes ac addysg

Disgyblion gydag ysbryd entrepreneuraidd yn hybu’r Gymraeg

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 12, 2023 10:38 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Disgyblion gydag ysbryd entrepreneuraidd yn hybu’r Gymraeg
RHANNU

Y tymor hwn mae disgyblion ym mlwyddyn 3 a 4 yn Ysgol Min y Ddol wedi bod yn dysgu am fod yn entrepreneuriaid, gan wella cysylltiadau cymunedol a defnyddio’r Gymraeg yn y broses. 

Cafodd y disgyblion gyllideb fach a chawsant y dasg o hysbysebu a chynnal bore coffi cymunedol a pharti ysgol. 

Roedd y disgyblion wedi hysbysebu’r bore coffi yn ddwyieithog yn yr ardal ac o ganlyniad roedd yna nifer dda yn bresennol.   Roedd y disgyblion yn derbyn archebion yn y Gymraeg (ac yn helpu gwesteion gyda’u harchebion os oedd ganddynt ychydig neu ddim Cymraeg).

Roedd ambell un o’r mynychwyr wedi eu plesio gyda gwaith y disgyblion ac yn nodi –

“Mae’r plant yn bleser.  Maent yn ddymunol ac yn defnyddio eu Cymraeg i’n helpu ni. Diolch.”

“Bellach, rwy’n deall beth maent yn ei olygu am yr X Factor pan maent yn dweud wow – mae gan yr ysgol hon y ffactor wow, neu falle dylwn i ddweud, X Factor.  Mae’n fendigedig”

Roedd y parti ysgol cyfan yn y prynhawn hefyd yn llwyddiant gyda disgyblion yn cael llawer o hwyl.   Roedd y disgyblion yn Dosbarth Draenog wedi cysylltu â busnes lleol, Happy Hire, i gael pris ar gastell bownsio ar gyfer y prynhawn ac wrth glywed y plant a deall eu cais, roeddent wedi llogi’r castell yn garedig am ddim ar gyfer yr achlysur.   

Dywedodd y Pennaeth yn Ysgol Min y Ddol, Mrs Claire Rainer:  “Rydym i gyd yn falch iawn o gyflawniadau’r disgyblion.   “Maent wedi llwyddo i wneud elw o £217.89 y gallent ei ddefnyddio fel y dymunent – nhw piau fo wedi’r cyfan! “Nid yn unig mae’r digwyddiad wedi gwneud elw, mae hefyd wedi hybu’r Gymraeg o fewn ein cymuned a chryfhau’r cysylltiad a sefydlwyd eisoes rhwng Ysgol Min y Ddol a’r gymuned.”

Meddai Stephen Jones, Swyddog Y Gymraeg: “Dyma enghraifft wych o sut mae trosglwyddiad iaith yn gweithio’r ddwy ffordd.   “Mae gweithgareddau cymunedol fel hyn yn hanfodol i normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg yn anffurfiol ac atgyfnerthu’r ffaith fod y Gymraeg yn sgil gwerth chweil a deniadol ar gyfer rhagolygon gyrfa.  “Da iawn bawb wnaeth gymryd rhan yn Ysgol Min y Ddol.”

Pupils with entrepreneurial spirit promote the Welsh language
Disgyblion gydag ysbryd entrepreneuraidd yn hybu’r Gymraeg
Disgyblion gydag ysbryd entrepreneuraidd yn hybu’r Gymraeg
Disgyblion gydag ysbryd entrepreneuraidd yn hybu’r Gymraeg
Disgyblion gydag ysbryd entrepreneuraidd yn hybu’r Gymraeg
Disgyblion gydag ysbryd entrepreneuraidd yn hybu’r Gymraeg
Disgyblion gydag ysbryd entrepreneuraidd yn hybu’r Gymraeg
Disgyblion gydag ysbryd entrepreneuraidd yn hybu’r Gymraeg
TAGGED:CymraegEntrepreneuraiddIaith GymraegwrecsamYsgolion
Rhannu
Erthygl flaenorol credydau treth Nifer syfrdanol o 27,844 o gwsmeriaid credydau treth yn adnewyddu drwy ap CThEF
Erthygl nesaf Library Car Park Maes Parcio Cyngor Wrecsam – ffyrdd hawdd i dalu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
Bethan, Noah a Gill
Busnes ac addysg

“Gwasanaeth ymroddedig i blant, teuluoedd a staff” – athrawes sydd wedi gwasanaethu am 43 mlynedd yn ymddeol

Gorffennaf 20, 2026
Youth Services Survey - young peope
Busnes ac addysgPobl a lle

Cwblhewch ein harolwg a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yn Wrecsam

Gorffennaf 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English