Ym mis Ionawr 2019 lansiwyd Her Llygredd Plastig gan Sky Ocean Rescue a’r Uwch Gynghrair, gan ofyn i ddisgyblion cynradd wneud addewid i ddefnyddio llai o blastig.
(Mae’r Her Llygredd Plastig (Plastic Pollution Challenge) yn rhan o adnoddau addysgu ehangach Primary Stars yr Uwch Gynghrair)
Dangosodd ddosbarth Clywedog a Thâf (blwyddyn 3) Ysgol Gynradd y Santes Fair yn Wrecsam eu bod nhw’n fwy na pharod i ymgymryd â’r her, gyda’u hanturiaethau ailgylchu yn arwain at daith i stiwdios Sky yn Llundain.
Roedd 13,500 o ddisgyblion o Gymru a Lloegr wedi cystadlu, ac roedd Ysgol y Santes Fair ymhlith deg o ysgolion a ddewiswyd i fynd i Lundain i gyflwyno adroddiad newyddion am eu haddewid i ailgylchu, sef ‘Meddwl ac Ailddefnyddio’.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Bydd yr adroddiad newyddion a grëwyd gan y dosbarth yn cael ei rannu ar safle Primary Stars a bydd panel o feirniaid yn dewis yr enillydd terfynol. Hefyd, bydd yr ysgol yn derbyn ymweliad gan Plasticus, morfil Sky Ocean Rescue, a chwpan yr Uwch Gynghrair, yn ogystal â gwesteion arbennig eraill!
Yn stiwdios Sky Academy rhannwyd y disgyblion yn bedwar tîm, gyda phob tîm yn gyfrifol am ffilmio rhan o’r adroddiad newyddion. Derbyniodd y disgyblion rolau arbennig fel cynhyrchydd, dyn camera a gohebydd. Fe gawson nhw hefyd fynd ar daith o gwmpas y stiwdios, gan ymweld â Sky News a Sky Sports.
Yr addewid ailgylchu a ddatblygwyd ganddyn nhw oedd ‘Meddwl ac Ailddefnyddio’ ac maen nhw wedi bod yn lledaenu’r neges hon o amgylch Wrecsam, gan ofyn i gaffis lleol osod eu posteri ‘Ail-lenwi nid Tirlenwi’ yn eu ffenestri.
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyma newyddion gwych. Yn gyntaf, mae’n braf gweld y plant a’r ysgol yn cymryd rhan ac yn ailgylchu, gan fynd gam ymhellach i ledaenu eu neges i gynulleidfa ehangach.
“Ac mae gweld eu gwaith caled yn cael ei wobrwyo gyda thaith i stiwdios Sky yn anhygoel – mae’n dangos bod gwaith caled a cheisio gwarchod dyfodol y blaned yn talu ar ei ganfed. Mae hon yn gamp glodwiw a dylech fod yn falch iawn o’ch hunain.”
Cynhaliwyd yr ymweliad ddydd Mercher 15 Mai ac roedd y disgyblion a’r athrawon wrth eu boddau, gyda’r ysgol yn postio negeseuon ar Twitter drwy gydol y dydd.
All back safe & sound after a wonderful day @SkyAcademy London. @stmaryswxm @wrexham A huge thank you to all staff who made our day so special. We will remember this day for a long time!! Diolch for our goody bags & for a great experience ???????????????? pic.twitter.com/9MygnFP1Pl
— St Mary's Wrexham (@stmaryswxm) May 15, 2019
Meddai Rachel Acton, Pennaeth Ysgol y Santes Fair: “Rydym ni’n falch iawn o ddisgyblion blwyddyn 3 sy’n addysgu cymuned yr ysgol gyda’u haddewid ‘Meddwl ac Ailddefnyddio’. Mae’n bwysig iawn bod ein plant yn deall eu cyfrifoldebau o ran edrych ar ôl ein planed ac maen nhw, a’r Pwyllgor Eco, yn arwain y ffordd.
“Mae’n braf meddwl bod y plant, drwy eu gwaith, wedi eu hysbrydoli i feddwl am fentrau newydd i wella cyfleusterau ailgylchu yn yr ysgol ac addysgu pob aelod o gymuned yr ysgol, gan gynnwys y staff arlwyo.”
Meddwl ac Ailddefnyddio ar waith
Mae’r ysgol gyfan bellach wedi ymrwymo i’r addewid ‘Meddwl ac Ailddefnyddio’. Pan fydd digwyddiadau fel disgos a mabolgampau yn cael eu cynnal bydd yr ysgol yn ceisio osgoi defnyddio plastig untro. Mae her ‘bocs bwyd di-blastig’ wedi ei chyflwyno i annog plant a rhieni i feddwl “a oes arnaf angen yr holl ddeunydd pacio plastig yma?”
Mae gwasanaethau ysgol hefyd wedi rhoi sylw i bethau eraill y gellid eu defnyddio yn lle plastig untro. Ar ben hyn, mae’r plant wrthi’n creu tai gwydr allan o boteli plastig ac mae’r ysgol wedi cyflwyno cynllun ailgylchu pacedi creision.
Beth yw barn y plant?
Dyma ychydig o ddyfyniadau gan blant Ysgol y Santes Fair 🙂
Cali: “Dw i’n meddwl bod lleihau ac ailgylchu plastig yn bwysig iawn oherwydd dyma ein byd ni ac mae’n rhaid i ni ei warchod.”
Eric: “Rydym ni wedi dysgu llawer am ailgylchu plastig a dw i’n meddwl y dylem ni geisio dysgu pawb am bwysigrwydd ailgylchu.”
Austeja: “Mae arnom ni eisiau i bobl feddwl cyn prynu plastig. Oes wir ei angen neu a oes modd defnyddio eitem arall fel bag, bocs bwyd neu botel?”
Eisiau gwybod mwy am y pecynnau rydych yn eu defnyddio?
Cwblhewch y cwis ar blastigion untro a gweld sut hwyl y cewch chi…
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU