Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen GWYLIWCH: Disgyblion yn cael blas ar gyfleoedd a buddion defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > GWYLIWCH: Disgyblion yn cael blas ar gyfleoedd a buddion defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle
Busnes ac addysgFideoPobl a lleY cyngor

GWYLIWCH: Disgyblion yn cael blas ar gyfleoedd a buddion defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 19, 2019 3:42 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
RHANNU

Mae denu mwy a mwy o blant i siarad Cymraeg yn un o’n prif nodau.

Cynnwys
  • Roedd amrywiaeth o gyflogwyr ar gael
  • “Mae’n bwysig fod plant yn clywed y Gymraeg y tu allan i’r dosbarth”

Yn ogystal â’u hannog i siarad Cymraeg yn y dosbarth, rydym ni hefyd yn awyddus i roi cyfle i ddisgyblion ysgol gynradd weld pa mor bwysig a defnyddiol yw’r iaith Gymraeg yn y byd gwaith ar ôl ymadael â’r ysgol.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio ar gyfer ysgolion cynradd yn gynharach yn y tymor.

CADWCH YN DDIOGEL – DERBYNIWCH Y RHYBUDDION DISEDDARAF AR SGAMIAU GALW NÔL CYNNYRCH A MATERION DIOGELU’R CHYHOEDD ERAILL

Roedd amrywiaeth o gyflogwyr ar gael

Cynhaliwyd sesiynau cwrdd a chyfarch i roi ymdeimlad o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg i ddisgyblion nid yn unig yn yr ysgol, ond yn y byd gwaith hefyd. Yn ogystal â hynny, dysgodd y disgyblion am y cyfleoedd a’r manteision sydd ynghlwm â’r iaith Gymraeg mewn gwahanol fathau o gyflogaeth.

Cynhaliwyd sesiynau rhwydweithio chwim yn dilyn llwyddiant digwyddiadau tebyg y llynedd drwy bartneriaeth rhwng ein hadran addysg, Gyrfa Cymru ac ysgolion cynradd.

Cynhaliwyd y sesiynau arloesol yn Ysgol Grango, Rhos ac Ysgol Rhiwabon, ac fe wnaeth 17 o ysgolion cynradd o ardaloedd Rhos, Dyffryn Ceiriog, Dyffryn Dyfrdwy, y Waun a Rhiwabon gymryd rhan – gyda dros 330 o ddisgyblion blwyddyn 6 yn bresennol.

Roedd nifer o gyflogwyr yn bresennol yn y digwyddiadau, gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru, Tân ac Achub Gogledd Cymru, Coleg Cambria, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir Wrecsam, Principality, Dŵr Cymru, Prifysgol Glyndŵr, Scottish Power, Siop Siwan, Read Construction, Menter Iaith, yr Urdd a busnesau lleol eraill.

Rhoddwyd cyfle i ddisgyblion gyfweld â phob un o’r cyflogwyr am bum munud yr un, gan ofyn cwestiynau iddynt am eu swyddi a pha mor bwysig yw’r Gymraeg yn eu bywydau gwaith dyddiol a’u gallu i ymgymryd â’u dyletswyddau.

Dywedodd Emlyn, disgybl ym mlwyddyn 6 yn Ysgol y Santes Fair, Rhiwabon: “Mi wnes i fwynhau’r bore yn fawr – roedd y bobl yn gwrtais iawn ac roeddwn wrth fy modd yn clywed am bwysigrwydd dysgu a defnyddio’r Gymraeg.”

Fe wnaeth Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, cyn-ddisgybl yn yr ysgol ymweld ag un o’r sesiynau yn Ysgol Rhiwabon.

Gweler y fideo uchod i glywed beth oedd gan Mr Roberts i’w ddweud am y sesiynau.

Yn dilyn y sesiynau, gofynnwyd i blant gynhyrchu gwaith mewn cyfryngau gwahanol i ddangos yr hyn y maent wedi’i ddysgu yn ystod eu sgyrsiau â chyflogwyr.

Cynhaliwyd cyfres o seremonïau gwobrwyo dilynol yn Neuadd y Dref, Wrecsam, i longyfarch disgyblion ar eu gwaith.

“Mae’n bwysig fod plant yn clywed y Gymraeg y tu allan i’r dosbarth”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Rwy’n falch iawn fod y disgyblion hyn wedi cael cyfle i gyfarfod cyflogeion o ystod eang o sefydliadau, a dysgu am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y gweithle.

“Mae’n bwysig fod plant yn cael y cyfle i weld pwysigrwydd y Gymraeg y tu allan i’r dosbarth, ac rwyf yn ddiolchgar iawn i’r cyflogwyr hynny sydd wedi mynychu’r digwyddiadau.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’r swyddogion a’r ysgolion sydd rhoi o’u hamser i gymryd rhan ac am drefnu’r sesiynau hyn – mae’n cyfrannu at un o amcanion allweddol ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, ac rydym yn sicr yn awyddus i weld rhagor o ddigwyddiadau o’r fath yn cael eu cynnal yn y dyfodol.”

Meddai Lesley Lloyd, Ymgynghorydd Ymgysylltu Busnes gyda Gyrfa Cymru: “Roedd y mentoriaid gwirfoddol yn cynrychioli ystod eang o gefndiroedd proffesiynol.

“Rhoddodd y digwyddiad gyfle i bobl ifanc gael blas ar lawer o siwrneiau gyrfaol a rhannu gwybodaeth werthfawr am sgiliau dwyieithog yn y byd gwaith a’r cyfleoedd sydd ynghlwm â siarad Cymraeg.

“Rydym yn falch o ddweud bod y sefydliadau a gymerodd ran wedi nodi eu diddordeb, eu hymrwymiad a’u boddhad, ac maent yn awyddus iawn i gymryd rhan yn nigwyddiadau’r Gymraeg yn y Gweithle yn y dyfodol.”

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Toilets Ydych chi’n defnyddio’r tai bach?
Erthygl nesaf BBQ barbecue food recycling Ailgylchu Gwastraff Bwyd – awgrymiadau defnyddiol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English