Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ailgylchu Gwastraff Bwyd – awgrymiadau defnyddiol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ailgylchu Gwastraff Bwyd – awgrymiadau defnyddiol
Pobl a lleY cyngor

Ailgylchu Gwastraff Bwyd – awgrymiadau defnyddiol

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 20, 2019 1:55 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
BBQ barbecue food recycling
RHANNU

Ydych chi’n ailgylchu gwastraff bwyd? Yn Wrecsam, gyda chasgliadau wythnosol, cadis a bagiau cadis am ddim, mae’n haws nag erioed i ailgylchu eich gwastraff bwyd.

Cynnwys
  • Awgrymiadau defnyddiol
  • “Nifer o fanteision”

Gyda hyn mewn golwg, dyma restr fer o awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu chi fod yn arwr ailgylchu.

Os ydych chi’n ailgylchu bwyd yn barod, gall yr awgrymiadau hyn fod yn ddefnyddiol hefyd 🙂

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Awgrymiadau defnyddiol

– Gwneud barbiciw? Ewch a’ch cadi bwyd tu allan a rhowch unrhyw esgyrn a gwastraff ynddo wrth basio. Mae’n gwneud hi’n llawer haws glanhau wedyn…ond sicrhewch eich bod yn cau’r caead i rwystro unrhyw bryfaid.

– Rhedeg allan o fagiau cadi? Clymwch un gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casgliadau ac mi wnawn ni adael rholyn newydd i chi. Mae mor syml â hynny!

– Mwynhau paned yn y bore? Gallwch ailgylchu bagiau te yn eich cadi bwyd. Person coffi? Gellir ailgylchu gronynnau coffi dros ben hefyd.

Ffeithiau am ailgylchu: Oeddech chi’n gwybod y gallwch ailgylchu eich bagiau te a'ch gronynnau coffi yn eich bocs gwastraff bwyd? pic.twitter.com/yZA0IKHv4l

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 2, 2019

– Oes rhywbeth wedi llwydo yn eich oergell? Rhowch hwn mewn bag cadi a’i roi yn syth yn eich cadi bwyd mawr yn barod i’w gasglu. Cofiwch fod eich cadi yn cael ei wagu bob wythnos…os rhowch y bwyd yn y bin du, bydd yn sefyll yno am bythefnos ac yn dechrau drewi.

– Oes gennych chi bryd parod heb ei fwyta? Gellir ailgylchu’r bwyd yn eich cadi bwyd, a gallwch ailgylchu unrhyw focsys cardbord a phlastig hefyd…ond sicrhewch eu bod nhw’n lân yn gyntaf.

– Awydd hufen iâ? Os yw’n braf, mae hufen iâ yn berffaith, ond beth ydych chi’n ei wneud gyda’r ffon bren? Gall y rhain, fel unrhyw gytleri pren, gael eu hailgylchu yn eich cadi bwyd!

– Oes gennych chi aelod o’r teulu sy’n ffyslyd a ddim yn bwyta’u bwyd? Ŵyr, wyres, plentyn neu frawd neu chwaer, sicrhewch fod yr holl wastraff yn cael ei ailgylchu yn eich cadi bwyd.

Ffeithiau am ailgylchu: Wedi cael cinio rhost neu borc i de? Rhowch yr esgyrn yn eich cadi gwastraff cegin 🙂 #wrecsam #ailgylchu pic.twitter.com/5KB9wuiThO

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 16, 2019

– Ydych chi am roi tro ar ein her un wythnos? Mae’r her ar gyfer pobl sydd ddim yn ailgylchu bwyd ar hyn o bryd… gallwn glywed rhai ohonoch yn dweud “Dydw i ddim yn ailgylchu bwyd gan nad oes gen i lawer o wastraff”. Rhowch gynnig ar ailgylchu bwyd am wythnos, a chewch eich synnu faint o wastraff sydd gennych. Gallwch archebu cadi am ddim o’n gwefan os oes angen un arnoch.

Gallwch weld rhestr fanwl o’r hyn gellir ei ailgylchu fel gwastraff bwyd yma.

“Nifer o fanteision”

Dywedodd y Cynghorydd David a Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae mwy a mwy o bobl yn dechrau ailgylchu eu gwastraff bwyd, ond rydym yn gwybod y gallwn wneud yn well fyth. Mae nifer o fanteision i ailgylchu eich gwastraff bwyd, fel casgliadau wythnosol a bagiau cadi am ddim, ac rydym eisiau annog pobl i fanteisio arnynt.”

Un o’r manteision eraill yw mwy o le yn eich bin du…darganfyddwch pam fod ‘gwagle’n wych’ drwy gwblhau ein cwis ailgylchu.

[interact id=”5cf126850508b80014b8d633″ type=”quiz”]

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol GWYLIWCH: Disgyblion yn cael blas ar gyfleoedd a buddion defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle GWYLIWCH: Disgyblion yn cael blas ar gyfleoedd a buddion defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle
Erthygl nesaf Derbyn Rhybuddion Diogelu’r Cyhoedd yn uniongyrchol yn eich blwch negeseuon e-bost Derbyn Rhybuddion Diogelu’r Cyhoedd yn uniongyrchol yn eich blwch negeseuon e-bost

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English