Wrth i COP26 nesáu, camodd ddisgyblion Ysgol Clywedog ar lwyfan yr enwog Tedx Talks, lle cawsant eu gwahodd i fynegi eu pryderon am newid hinsawdd a dyfodol yr amgylchedd.
Penderfynon nhw i ledaenu’r gair am bwysigrwydd gwenyn.
Cymerodd nifer o ysgolion ledled Gogledd Cymru ran, gydag Ysgol Clywedog yn cynrychioli Wrecsam. Fe gydweithion nhw gyda chydweithwyr o GwE a Phrifysgol Glyndŵr i drafod pam ddylem fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd rŵan.
Meddai Nicholas Brown, Pennaeth Daearyddiaeth Ysgol Clywedog: “Penderfynodd dasglu eco’r ysgol gymryd rhan yn y prosiect, oherwydd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11, dyma uchafbwynt 3 blynedd o waith caled yn ceisio gwella’r amgylchedd ar gyfer ein hysgol a’n cymuned.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
“Roedd rhaid i’r grŵp gyflwyno fideo prawf i GwE, ac o hyn, fe ddewison nhw gymryd rhan yn Tedx talks. Roedd hwn yn brofiad gwych i’r pum disgybl, ac yn bwysicach, maent wedi ysbrydoli sawl dysgwr arall yn ein hysgol. Mae eu fideo wedi cael ei chwarae o flaen arweinwyr y byd, ac mae nawr ar safle swyddogol TEDx.
“Mae cymuned ein hysgol gyfan yn falch iawn o beth maent wedi ei gyflawni.”
Dywedodd un o’r disgyblion a gymerodd rhan, Maddie Salisbury: “Bydd newid hinsawdd yn fater diffiniol i’n cenhedlaeth ni, a sawl un i ddod, ac roeddem yn teimlo fod gennym ddyletswydd i sefyll i fyny a dweud wrth ein harweinwyr ein bod eisiau newid.
“Fe ddewison ni siarad am wenyn a bioamrywiaeth, gan eu bod yn rhywbeth ‘roeddem wedi canolbwyntio arnynt yn y tasglu eco, ac yn rhywbeth y mae gennym bŵer dros wella yn ein cartrefi, ysgolion a’n cymunedau. Rydym wedi gweithio’n galed ers 2019 i roi hwb i fioamrywiaeth leol, a byddwn yn parhau i wneud hyn pan fyddwn yn cyflwyno gwenynfa i’r ysgol gyda thri cwch gwenyn a miloedd o wenyn. Rydym yn gofyn i bobl Wrecsam helpu ein gwenyn a pheillwyr eraill ffynnu, drwy blannu llawer o flodau gwyllt a cheisio peidio torri glaswellt y lawnt na chwynnu’r ardd mor aml ag y byddent fel arfer.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Rydym yn falch iawn o’r disgyblion hyn, ac yn eu cymeradwyo am gynrychioli Wrecsam gyda neges bwysig iawn ar lwyfan byd enwog. Maent wedi gweithio’n ddiflino o fewn cymuned eu hysgol i wella’r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac mae ganddynt brosiectau ar y gweill sy’n golygu y byddant yn parhau i wneud hynny yn ystod eu blwyddyn olaf yn Ysgol Clywedog.
Gallwch weld ymddangosiad tasglu eco Ysgol Clywedog yn TEDx Talks ar YouTube, lle gallwch weld fideo arall sy’n cyflwyno holl ysgolion Gogledd Cymru a gymerodd ran.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL