Cynhaliwyd cyfarfod cadarnhaol i drafod cynnydd ar safle tirlenwi Hafod yn gynharach y mis hwn (dydd Gwener, 21 Mawrth).
Cyfarfu uwch gynrychiolwyr Enovert, Cyngor Cymuned Rhos, Cyngor Cymuned Rhiwabon, Cyngor Wrecsam a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i drafod y safle yn Nhre Ioan, sydd wedi bod yn destun pryderon ynglŷn ag arogleuon gan drigolion lleol.
Edrychodd y partneriaid ar ffyrdd o wella hyder, cyfathrebu a thryloywder ynghylch y safle, ac mae’r AS lleol a’r AoS lleol wedi ymrwymo i gefnogi gwaith y grŵp.
Gan gydnabod y cynnydd mewn pryder cymunedol dros fisoedd y gaeaf, ymrwymodd yr holl bartïon i gyfres o egwyddorion a chamau gweithredu – gan nodi bod pryderon cymunedol wedi lleihau yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Roedd y camau gweithredu yn cynnwys ymrwymiad parhaus gan Enovert i liniaru unrhyw arogleuon oddi ar y safle ac i wella cyfathrebu â’r cyhoedd – gyda phwyslais ar ddatblygu ei berthynas â’r gymuned.
Cytunodd yr holl bartneriaid i helpu i gynnal gwybodaeth ar Wefan CNC, a phwysleisiodd y cynghorau cymuned eu hymrwymiad i helpu i roi gwybod i drigolion lleol sy’n methu â chael mynediad i’r rhyngrwyd.
Mae Cyngor Wrecsam, Enovert a CNC wedi ymrwymo hefyd i weithio gyda’i gilydd i ddarparu gwybodaeth i’r gymuned o’r monitorau ansawdd aer amser real a osodwyd yn ddiweddar, ac i ymgysylltu â phartneriaid iechyd y cyhoedd yn briodol.
Bydd cynnydd yn cael ei fonitro a’r diweddariadau yn cael eu rhannu â phob sefydliad a’r cyhoedd yn ystod y misoedd nesaf.