Ar ddydd Sadwrn yr 2il o Orffennaf, cynhaliodd Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans yng Ngwersyllt ei ddiwrnod agored a oedd yn ddigwyddiad gwych i bob oedran. Croesawyd pawb o’r gymuned leol i ddefnyddio eu canolfan hamdden leol ac fe’i hanogwyd i fod yn egnïol!
Ymhlith uchafbwyntiau’r diwrnod roedd Zumbathon dwy awr am ddim, dosbarthiadau ffitrwydd, mynediad i’r gampfa, pêl-droed a phêl-fasged gwynt yn y neuadd chwaraeon a dwy sesiwn gyda theganau gwynt yn y pwll. Ymddangosodd mascot Freedom Leisure sef Jim Trainer a hefyd Brenin y Pwdinau ei hun, Mr Tee ac roedd y plant (ac oedolion) wrth eu boddau.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Roedd Beverley Parry-Jones, y Cynghorydd ar gyfer Bryn Cefn yn bresennol a dywedodd, “Roedd yn bleser ymweld â Diwrnod Agored Canolfan Hamdden Gwyn Evans, mae’n wych bod gennym gyfleusterau mor anhygoel ar stepen ein drws sy’n cynnig cymaint o weithgareddau ar gyfer pob ystod oedran. Roedd cyfarpar y gampfa wedi gwneud tipyn o argraff arnaf ac yn ddiweddar rwyf wedi dechrau mynd i nofio yn y pwll gyda’r nos.“
Yn ogystal â’r diwrnod agored, manteisiodd Gwyn Evans ar y cyfle i lansio eu haelodaeth gymunedol newydd sbon a fydd yn rhoi’r cyfle i drigolion lleol ddefnyddio eu cyfleusterau lleol am bris isel iawn.
Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal Freedom Leisure yn Wrecsam, “Roedd yn wych gweld llwyddiant y diwrnod agored yn Gwyn Evans gyda’r gymuned leol yn bresennol, gan ei wneud yn ddiwrnod mor hwyliog i bawb. Bellach mae gennym yr aelodaeth gymunedol newydd ar gyfer Gwyn Evans a fydd yn caniatáu mynediad i ddosbarthiadau nofio, y gampfa ac ymarfer corff, rhywbeth i bawb”
Mae Freedom Leisure yn Wrecsam sy’n rhedeg Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn edrych ymlaen at ddiwrnodau agored yn eu canolfannau eraill sef Byd Dŵr a’r Waun yn ddiweddarach y mis hwn.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleusterau Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans ac i holi am eu haelodaeth gymunedol ffoniwch 01978 269540 neu ewch i https://www.facebook.com/GwynEvansLAC am luniau a fideos o’r diwrnod.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH