DEWCH I DDWEUD HELO
Dydd Sadwrn, 15 Gorffennaf (rhwng 10am a chanol dydd) bydd Ysgol Llan-y-pwll yn cynnig croeso cynnes i bawb yn y gymuned i ddod i weld yr ysgol.
Yn ogystal â dod i weld yr ysgol, bydd amrywiaeth o weithgareddau i ddiddori’r plant, os ydyn nhw’n siarad Cymraeg ai peidio, gallant ddod i ymuno â’r hwyl (a dysgu rhai geiriau neu ymadroddion efallai)
Amserlen o ddigwyddiadau
10:10—10:40 Mudiad Meithrin
10:50—11:20 Menter Iaith
11:30—12:00 Gemau gyda’r Urdd
Y Gymraeg mewn Addysg
Dywedodd Pennaeth dros dro’r Ysgol, Rhiannon James: “Dyma wahoddiad i bawb yn y gymuned i ddod i weld ein hysgol. “Byddwn yno i drafod rhai o fanteision dwyieithrwydd ac addysg gyfrwng Gymraeg.”
Dywedodd yr Aelod Arweiniol Addysg, y Cynghorydd Phil Wynn: Ysgol Llan-y-pwll yw ysgol Gymraeg mwyaf newydd Wrecsam, ac mae pawb sy’n rhan ohoni’n falch iawn o’i hychwanegiad i’r gymuned. O fis Medi, bydd gennym ddosbarth Meithrin, Derbyn a Blwyddyn 1 yn yr ysgol. Mae disgwyl i’r ysgol dyfu blwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i’r disgyblion hŷn symud i fyny (ac mae gennym lawer o ddisgyblion ar y ffordd ar gyfer dosbarth derbyn a blwyddyn 1). Bydd mynd i ddiwrnod agored yr ysgol ddydd Sadwrn yn cynnig cyfle gwych i archwilio beth sy’n cael ei gynnig yn Ysgol Llan-y-pwll, yn ogystal â chael cipolwg ar fuddion addysg Gymraeg ar gyfer eich plentyn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Rhif ffôn: 01978 594101
E-bost: mailbox@ysgolllanypwll-pri.wrexham.sch.uk
Cyfeiriad: Ffordd Parc Borras, Wrecsam, LL12 7TH