Roedd digwyddiad am ddim i ddathlu Diwrnod Byd-eang y Plant yn llwyddiant mawr yn gynharach y mis hwn.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Nhŷ Pawb ac fe’i hagorwyd gan Scarlett Williams, Cadeirydd Senedd yr Ifanc a Katie Hill, Aelod Wrecsam o Senedd Ifanc y DU. Cafodd tu blaen yr adeilad a’r mynedfeydd eu goleuo’n las sef y lliw sy’n cynrychioli Diwrnod Byd-eang y Plant.
Bu i ysgolion a grwpiau ieuenctid ymuno â’r dathliadau drwy wisgo rhywbeth glas a chynnal dathliadau Diwrnod Byd-eang y Plant a darparodd Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam fysiau fel bod grwpiau ieuenctid cymunedol yn gallu mynychu’r digwyddiad.
Roedd y digwyddiad am ddim ac roedd llawer o bobl yn bresennol. Roedd yn braf gweld pobl o bob oed, babanod, plant, pobl ifanc, rhieni, neiniau a theidiau, gofalwyr, grwpiau ieuenctid, aelodau etholedig a phobl sy’n gwneud penderfyniadau strategol yn dod at ei gilydd i’n digwyddiad Diwrnod Byd-eang y Plant prysuraf erioed, roedd pawb yn mwynhau eu hunain ac yn cael hwyl.
Roedd yr adloniant eleni yn cynnwys Andy y dyn pryf gyda’i arddangosfa pryfed arbennig a DidyaEvents yn dal atgofio gyda’u bwth lluniau.
Cynhaliodd Tîm Chwarae Wrecsam helfa drysor a sesiwn chwarae hwyl, bu i James y Cellweiriwr ddysgu sgiliau syrcas i’r plant a’r bobl ifanc, a bu i Senedd yr Ifanc ddarparu wynebau’r ŵyl a modelu balŵns.
Bu i Wrecsam Egnïol ddarparu her neidio a chynhaliodd Tîm Gwaith Ieuenctid mewn Addysg Wrecsam weithgaredd dylunio eich bisgedi eich hunain a chafwyd adloniant byw gan y gantores Megan Lee a’r Dynamic Signing Sensations.
Aeth y bwyd a phethau da am ddim i lawr yn dda hefyd. 🙂
Roedd yna gymysgedd dda o stondinau yno hefyd yn darparu gwybodaeth am wasanaethau a phrosiectau i gefnogi pobl ifanc a theuluoedd ar draws Wrecsam a oedd yn rhoi taflenni a nwyddau am ddim i bobl fynd adref gyda nhw.
Yn ystod y digwyddiad cynhaliwyd seremoni wobrwyo wedi’i arwain gan y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Paul Rogers, a ddywedodd ei bod yn fraint cael rhannu cyraeddiadau gwirfoddolwyr ifanc ymroddedig o Wrecsam.
Mae’r Cynllun Gwobrau Gwirfoddolwyr yn Ysbrydoli Wrecsam yn gynllun newydd a ddatblygwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam. Mae’n cydnabod ac yn gwobrwyo pobl ifanc 11 – 25 oed am eu llwyddiannau wrth wirfoddoli gyda Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam.
Bu i’r Dirprwy Faer ddiolch i’r holl wirfoddolwyr am eu hymroddiad, ymrwymiad ac amser i gefnogi eu prosiectau. Llwyddodd 21 o bobl ifanc i gael tystysgrifau yn amrywio o 10 awr i 400 awr, a daeth 14 o’r bobl ifanc hyn i gasglu eu tystysgrifau yn ystod y digwyddiad.
Hoffai Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam ddiolch i bawb a wnaeth y digwyddiad yn llwyddiant mawr ac am eu helpu i ddathlu Diwrnod Byd-eang y Plant 2022.
Cafodd Diwrnod Byd-eang y Plant ei sefydlu yn gyntaf ym 1954 fel Diwrnod Byd-eang y Plant ac mae’n cael ei ddathlu ar 20 Tachwedd bob blwyddyn i hyrwyddo cydberthynas rhyngwladol, ymwybyddiaeth ymysg plant yn fyd-eang a gwella lles plant. Y thema eleni oedd: Cynhwysiant i bob plentyn.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI