Cymerodd staff ac ymwelwyr y Byd Dŵr, a weithredir gan Freedom Leisure ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ran mewn diwrnod o ddigwyddiadau codi arian ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, gan godi mwy na £700.
Dechreuodd y diwrnod gyda sbin wyth awr ar feic ffitrwydd – gyda staff a chwsmeriaid yn mynd ar y beic i ychwanegu at gyfanswm y milltiroedd.
Y prif ddigwyddiad oedd 100 o hwyaid rwber yn rasio i lawr y sleid ddŵr 65 metr yn y ganolfan hamdden a gweithgareddau – roedd cyfle i gwsmeriaid ‘brynu’ hwyaden am £2 yr un, yn y gobaith y byddai eu hwyaden nhw yn ennill ras. Daeth un cystadleuydd a bwyd hwyaid gydag o er mwyn ceisio gwneud ei hwyaden fynd yn gyflymach!
Daeth hwyaden rhif 24 i’r brig yn y diwedd, ac enillodd Pat Williams £100, a chodwyd £100 arall ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.
Derbyniwyd cyfraniadau ymlaen llawn, gan roi cyfle i gystadleuwyr ennill hamperi a nifer o wobrau wedi’u rhoddi gan fusnesau lleol – a bu cwsmeriaid hefyd yn cyfrannu cacennau i’w gwerthu ar y diwrnod.
Dywedodd Cheryl Lockyer, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol, Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru: “Hoffwn ddiolch yn fawr i staff ac aelodau Freedom Leisure am eu cefnogaeth.
“Mae pob ceiniog yn ein cynorthwyo i gyllido ymchwil arloesol a chefnogi cleifion a’u teuluoedd.”
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Rwy’n falch iawn fod y diwrnod codi arian yn y Byd Dŵr wedi codi cymaint o arian, ac hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran – staff a gwirfoddolwyr – am eu hymdrechion i wneud y diwrnod yn un mor llwyddiannus.”
Rydym wedi cael ein gorfodi i wneud hyd yn oed mwy o doriadau. Ond cyn i ni wneud unrhyw beth, hoffem glywed eich barn chi.
DWEUD EICH DWEUD