Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad olaf yn Amgueddfa Wrecsam cyn i ni gau!
Dewch i’n diwrnod o hwyl i’r teulu arswydus. Hwn fydd ein digwyddiad teuluol olaf yn yr amgueddfa bresennol cyn ein hadnewyddu a hoffem agor ein drysau i erchyllterau bach!
Ble: Amgueddfa Wrecsam
Pryd: Dydd Sadwrn, Hydref 28, 2023
Faint o’r gloch: 11am – 3pm
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys cic gosb gyda Dyn Brymbo ar ein cwrt blaen, gwneud hudlath, tatŵs braich gliter arswydus, llwybr amgueddfa ar thema Calan Gaeaf, a gweithgareddau crefft iasol eraill.
Mae ein holl weithgareddau yn rhad ac am ddim ac edrychwn ymlaen at groesawu eich holl ysbrydion ac ellyllon yn fuan iawn! Mae croeso i chi wisgo i fyny. Bydd yn arswydus!
Nid oes angen archebu lle, dewch draw yn ystod ein horiau agor: 11am – 3pm.
Bydd Amgueddfa Wrecsam yn cau i’r cyhoedd ym mis Tachwedd er mwyn gallu dechrau ar y gwaith o baratoi’r adeilad ar gyfer ei ailddatblygu. Darganfod mwy.