Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal gweithdy ‘Diwrnod Rhyngwladol Dawns’ i bobl o bob oedran a gallu yn Tŷ Pawb yn Wrecsam ddydd Sadwrn 1 Chwefror, rhwng 11am a 1pm.
Bydd NEW Dance, y mudiad dawns cymunedol, yn arwain y gweithdy a byddant yn edrych ar draddodiadau dawns o Sbaen, Groeg, Rwsia a’r DU, er mwyn rhoi blas o’r Eisteddfod Genedlaethol a’i chenhadaeth i sicrhau heddwch a harmoni trwy gerddoriaeth a dawns. Caiff gyfranogwyr gyfle i ddysgu 3 neu 4 dawns mewn sesiwn hwyliog i bob oedran, o neiniau a theidiau i blant, ac yna rhannu eu gwaith ar ddiwedd y gweithdy yn Sgwâr y Bobl yn Tŷ Pawb.
Fe fydd yna hefyd gyfle i ddysgu mwy am gyngherddau cyffrous yr Eisteddfod Ryngwladol, a’r cystadlaethau dawns a chystadlaethau newydd sbon i unigolion ar gyfer 2020.
Os hoffech chi ymuno â ni ar gyfer y sesiwn hwyliog i deuluoedd, archebwch eich lle a’ch tocyn trwy Eventbrite yma.
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN