Mae cwmni lleol sefydledig wedi gweithredu amgylchedd gwaith “Diwylliant Darbodus” ac mae’n profi i fod yn boblogaidd iawn gyda staff, fel y darganfu Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Nigel Williams, yn ddiweddar pan aeth i ymweld â’r cwmni.
Mae Healthcare Matters, ym Mhentre Broughton, yn arbenigo mewn darparu nwyddau a gwasanaethau i’r diwydiant gofal.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Ar hyn o bryd maent yn cyflogi 46 o staff ac fe gyflwynwyd yr amgylchedd Diwylliant Darbodus bron i 12 mis yn ôl er mwyn gwella’r gwasanaeth maent yn ei ddarparu ac mae staff bellach yn teimlo gwell ymgysylltiad gyda chynnydd mewn cyfraddau bodlonrwydd swydd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr, Adam Spiby, “Roedd yn wych tywys y Cynghorydd Williams o amgylch Healthcare Matters, ac egluro sut rydym wedi gweithredu Diwylliant Darbodus yma er mwyn grymuso ein tîm. Ers i ni gyflwyno’r diwylliant hwn, rydym wedi gweld mwy o ymgysylltiad gan staff, ac mae canlyniadau arolwg bodlonrwydd staff wedi gwella’n fawr.
“Rydym hefyd yn gweithredu yn fwy effeithlon ac yn gwella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i’n cwsmeriaid. Siaradodd Nigel i nifer o’n staff a oedd yn hapus i ddangos y gwelliannau maent wedi’u gwneud”
Mae’r dull Diwylliant Darbodus yn annog staff i leisio unrhyw rwystredigaethau sydd ganddynt sy’n rhoi goleuni ar aneffeithlonrwydd a gwastraff o fewn ein busnes. Mae’n ymgysylltu a grymuso staff tra’n elwa’r cwmni hefyd.
Mae’n newid diwylliannol sy’n cymryd amser ac amynedd i sefydlu, ond yn y pen draw mae’n elwa ysbryd staff, diogelwch a gwasanaeth i gwsmeriaid.
Mae barn yn cael ei werthfawrogi a’i barchu o ganlyniad i Ddiwylliant Darbodus
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, “Roedd yn bleser ymweld a siarad gyda staff am eu profiadau o weithio mewn amgylchedd Diwylliant Darbodus. Yn sicr maent yn teimlo’n rhan fawr o’r tîm cyfan ac mae eu barn yn cael ei werthfawrogi a’i barchu o ganlyniad i hynny.”
Llun yn dangos Lauren O’Connor, Rheolwr Datblygu Busnes, Adam Spiby, Cyfarwyddwr a’r Cynghorydd Nigel Williams
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH