Bydd sgwrs ysbrydoledig gan ddau ddysgwr Cymraeg yn cael ei chynnal yn Wrecsam ar 18 Ebrill. Bydd Stephen Rule, sy’n cael ei adnabod fel ‘Doctor Cymraeg’ gan ei 58,000 o ddilynwyr Instagram, yn ymuno â cholofnydd Lingo Newydd, Francesca Sciarrillo, am sesiwn holi-ac-ateb anffurfiol ar bopeth yn ymwnued â’r iaith.
Byddan nhw’n cymryd rhan mewn digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan gylchgrawn Lingo Newydd, i ysbrydoli pawb sy’n teimlo fel Cymry i ddechrau dysgu’r iaith.
Cynhelir y sesiwn Why learn the lingo (and fun tips on using your Welsh in the wild!) am 5pm ddydd Iau 18 Ebrill 2024 yn Llyfrgell Wrecsam.
Bydd y sgwrs yn Saesneg yn bennaf (gyda thipyn o Gymraeg wedi ei daflu i mewn!)
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gardd newydd i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc