Gwelwyd llawer o fewn cyfryngau prif ffrwd ar ymchwil i ofal pontio’r cenedlaethau – yr arfer o ddod â’r bobl ifanc a’r bobl hŷn ynghyd drwy gyflwyno meithrinfeydd a chartrefi gofal i’w gilydd.
Mae’r arfer o ofal pontio’r cenedlaethau wedi’i hybu drwy’r teledu o fewn nifer o raglenni dogfen: efallai yn fwy penodol, Older People’s Home for Four-Year-Olds ar Channel 4, ac yng Nghymru The Toddlers Who Took on Dementia ar BBC a Hen Blant Bach ar S4C.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Mae manteision gwaith pontio’r cenedlaethau yn bell gyrhaeddol a gyda grant Cynhwysiant Cymuned Cyngor Wrecsam, mae mwy o bobl yn cael budd o’r sesiynau gwych fel yr un yma yn ddiweddar yng nghanolfan Gymunedol Hightown i ddathlu’r diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ar 1 Hydref.
Gwrandewch ar Sarah o Boogie Beats a gynhaliodd sesiwn yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown yn ddiweddar diolch i’r grant.
Cynhaliwyd sesiwn diweddar hefyd yn Cylch Meithrin Bro Alun, Gwersyllt drwy gyfrwng y Gymraeg ac ymunodd trigolion o Oak Alyn a Hillbury â’r plant oedd yn canu nifer o ganeuon yn y Gymraeg.
Yn ogystal, roedd Cartref Gofal Ashgrove yng Ngresffordd wedi gwahodd Marford Little Explorers am fore llawn hwyl yn y cartref gofal a gefnogwyd gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu Lisa a Sue.
Dywedodd Tracey Nevitt, Rheolwr Marford Little Explorers, “Fedrai ddim diolch digon i chi am eich caredigrwydd y bore yma. Roedd sylwi ar y rhyngweithio rhwng yr hen a’r ifanc yn anhygoel!”
Grant Cynhwysiant Cymunedol
Ydych chi’n sefydliad sy’n gweithio gydag oedolion diamddiffyn, yn grŵp cymunedol neu’n rhywun sydd â syniad da?
Wel, oeddech chi’n gwybod y gallech fod yn gymwys i dderbyn Grant Cynhwysiant Cymunedol?
Gellir gofyn am ffurflenni cais drwy e-bost neu dros y ffôn; manylion cyswllt isod.
Cysylltwch â’r Tîm Comisiynu, Cyngor Wrecsam ar 01978 292066 i gael sgwrs anffurfiol neu i gael rhagor o wybodaeth.
Mae ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd ar gael trwy anfon e-bost i: commissioning@wrexham.gov.uk
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD