Wythnos arall ac rydym hanner ffordd drwy wyliau’r ysgol, ac mae’r rhestr o weithgareddau gwych i’r plant yn parhau.
Cymerwch gipolwg ar y rhestr isod am syniadau ar beth sy’n digwydd yr wythnos hon!
11 Awst, 10am-12pm
Sesiynau Celf Dyddiau Sadwrn yn Nhŷ Pawb
7-11 mlwydd oed
Mae archebu lle yn hanfodol: ffoniwch 01978 292093 neu anfonwch e-bost at oriel.learning@wrexham.gov.uk
£6 yr un neu £4 am rai sy’n perthyn
13 Awst, 10-11.30am
Hwyl gyda Duplo yn Llyfrgell Wrecsam
Plant rhwng 0 a 5 mlwydd oed, mae archebu lle yn hanfodol felly ffoniwch ni ar 01978 292603
AM DDIM
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
14 Awst, 2.30-3.30pm
Yr Ymddiriedolaeth Gŵn yn Llyfrgell Coedpoeth
Bydd yr Ymddiriedolaeth Gŵn yn cynnal gweithdy i gyd-fynd â Sialens Ddarllen yr Haf; mae’n addas i blant oedran cynradd. Mae’n rhaid archebu lle felly ffoniwch 01978 722920.
AM DDIM
15 Awst, 10-11am
Sesiwn stori a chrefftau yn Llyfrgell Wrecsam
Magi Ann a’i Ffrindiau
Cysylltwch â: anna@menterfflintwrecsam.cymru / 01352 744040
£1
15 Awst, 1-3pm
Sesiynau Chwaraeon a Gemau yn y Parciau
Cyfarfod yn y bandstand am weithgareddau a champau. Ar gyfer plant rhwng 8 ac 14 mlwydd oed, am fanylion
AM DDIM
16 Awst, 2pm
Prynhawn o ffilmiau yn Llyfrgell Gwersyllt a’r Ganolfan Adnoddau
Dewch i wylio Paddington 2! Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01978 722890.
Popgorn a diod £1
16 Awst, 1.30-3.30pm
Gwesty Pryfed yn Nhŷ Mawr
Gwneud gwesty pryfed 5 seren i annog bywyd gwyllt i mewn i’ch gardd. Mae’n addas i bobl o bob oed. Archebwch eich lle ar countryparks@wrexham.gov.uk
£2.60
Mae hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau ar ein tudalennau Facebook a Twitter, felly cadwch lygad arnynt am ddigwyddiadau a fyddai o ddiddordeb i chi.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN