Mae hirdeithwyr a mynyddwyr bob amser yn ymdrechu i fynd yn uwch a mwy eithafol, ac mae hyn yn mynd â dau aelod o staff Cyngor Wrecsam i Wersyll Cychwyn Everest!
Mae Susan a Gavin Mascall eisoes wedi dringo Toubkal (y mynydd uchaf yn Affrica), Alpau Awstria ac Alpau Ffrainc, a nawr bydd y ddau yn treulio 14 diwrnod yn dringo i Wersyll Cychwyn Everest, yna ymlaen i gopa sy’n uwch, cyn dod yn ôl i lawr i Lukla i hedfan yn ôl i Kathmandu.
Er mai eu gwyliau nhw yw’r daith hon – dim gwely haul i’w weld – maen nhw hefyd wedi penderfynu codi arian ar gyfer Canser y Coluddyn Gogledd Cymru.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Mae Gavin yn gweithio gyda phobl sydd wedi eu hatgyfeirio i wneud ymarfer corff gan eu Meddyg Teulu fel rhan o’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Dros y blynyddoedd mae wedi gweithio gyda nifer sydd wedi dioddef canser y coluddyn a’r bobl ddewr hyn sydd wedi ysbrydoli’r ddau i ddefnyddio’r daith hon i godi arian i’r elusen.
Pan ofynnwyd iddo pam roedd ef a’i wraig wedi dewis y daith hon ac i godi arian i Gymorth Canser y Coluddyn Gogledd Cymru, dyma ddywedodd: “Rydym wrth ein bodd o fod yn y mynyddoedd ac mae mynd i’r Himalayas bob amser wedi bod yn freuddwyd i ni. Gwnaethom benderfynu codi arian i Gymorth Canser y Coluddyn Gogledd Cymru oherwydd ein bod wedi ein hysbrydoli gan un o’r cleientiaid rydym wedi gweithio gyda hi ar y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, a sefydlodd y grŵp hwn, er ei bod yn dal i gael triniaeth ar gyfer ei chanser. Rydym wedi gallu ei chefnogi drwy ei thaith gyda chanser a gobeithio bydd codi’r arian hwn yn golygu y gellir cefnogi rhagor o bobl drwy ddiagnosis o ganser y coluddyn ar draws Gogledd Cymru. Byddwn yn dal i weithio’n agos gyda nifer o gleifion canser ac rydym yn gwybod faint all siarad gyda rhywun arall sydd wedi cael diagnosis canser eu hunain ei olygu. Bydd beth bynnag allwn ei godi, gobeithio, yn tynnu ychydig o’r baich oddi ar y tîm da o wirfoddolwyr yn Cymorth Canser y Coluddyn Gogledd Cymru a galluogi eu rhwydwaith o gymorth i dyfu.”
Os hoffech gyfrannu at yr achos hwn a chefnogi Susan a Gavin ar eu taith nesaf, ewch i https://www.justgiving.com/crowdfunding/bowelcancersupportnorthwales.
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU