Rydym wedi llwyddo i gael £1.86 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd i gyflwyno cyfleusterau gwefru cerbydau trydan yn Wrecsam.
Daw’r cyllid hwn fel rhan o fuddsoddiad gwerth £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru.
Mae’r cynigion ar gyfer Wrecsam yn cynnwys creu canolbwyntiau symudedd yng nghanol y ddinas, yn ogystal â gosod gwefrwyr o gynwyseddau amrywiol mewn gwahanol safleoedd, gan gynnwys rhai o’n lleoliadau mwy gwledig yn y sir.
Bwriedir sefydlu’r canolbwynt newydd cyntaf yng nghanol y ddinas ym maes parcio Stryt y Farchnad. Bwriedir hefyd gosod dros 20 o unedau cynhwysedd llai mewn amryw o feysydd parcio llai ym mhob rhan o’r sir.
“Cam pwysig ymlaen at gludiant carbon is yn Wrecsam”
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr Hinsawdd: “Rydym yn falch o dderbyn y cyllid hwn a fydd yn ein galluogi i barhau â’n gwaith i helpu pobl i newid i ddefnyddio Cerbydau Trydan trwy greu canolbwyntiau symudedd o amgylch ardaloedd lle mae’r galw yn debygol o fod yn uwch a lle gallwn ddarparu gwefrwyr cynhwysedd uwch, yn ogystal â chefnogi rhai o’n cymunedau llai a mwy gwledig trwy ddarparu gwefrwyr cynhwysedd is.”
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Dylai’r gwefrwyr cynhwysedd is a fydd ar gael i’r cyhoedd helpu pobl sydd o bosibl yn methu â chael mynediad at leoedd parcio oddi ar y stryd lle gallent osod gwefrwr cerbyd trydan. Fel rhan o’r prosiect hwn rydym hefyd yn ystyried ychwanegu mwy o ddarpariaethau ar raddfa lai i gefnogi teithio llesol a byd natur. Rydym yn awyddus i ddechrau ar y cam pwysig hwn ymlaen at gludiant carbon isel yn Wrecsam.”
“Ymroddedig i greu isadeiledd cerbydau trydan o safon uchel ledled Cymru”
Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, gyda chyfrifoldeb dros gludiant: “Mae angen i yrwyr gael yr hyder i newid i ddefnyddio cerbydau trydan wrth i’r galw gynyddu a dyna pam yr ydym yn ymroddedig i greu isadeiledd cerbydau trydan o safon uchel ledled Cymru.
“Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith hwn yn cael ei ddarparu gan y sector preifat ond ein rôl ni yw hwyluso buddsoddiadau sector preifat ledled Cymru a sicrhau mynediad cyfartal.
“I’n help â hyn, rydym wedi creu tasglu sector preifat a fydd yn ymgysylltu â’r farchnad, goresgyn unrhyw rwystrau i fuddsoddi a chyflwyno’r isadeiledd gwefru yn gynt.
“Mae’r cyllid sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw yn gam arall yn y cyfeiriad cywir ond mae angen i ni fynd ymhellach – byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a’r sector preifat er mwyn sicrhau bod Cymru yn medru cynnal y cynnydd cyflym yn nifer y cerbydau trydan.”
Cyfleoedd cyllid ar gyfer busnesau ac eraill
Mae’r llywodraeth yn darparu cyllid i gefnogi pobl i newid i ddefnyddio cerbydau trydan. Ydych chi’n gymwys am unrhyw un o’r grantiau hyn?
Landlordiaid preifat
Ydych chi’n landlord preifat? Os ydych, mae dau grant y gallwch wneud cais amdanynt i’ch helpu i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn eiddo yr ydych yn berchen arno (Grant pwyntiau gwefru cerbydau trydan a grant isadeiledd cerbydau trydan)
Pobl sy’n berchen ar fflat neu sy’n rhentu fflat
Mae’r grant pwynt gwefru cerbydau trydan ar gael i bobl sy’n berchen ar fflat neu sy’n rhentu fflat. Gallwch wneud cais am y grant hwn os:
• ydych yn berchen ar fflat ac yn byw ynddo, neu os ydych yn rhentu unrhyw eiddo preswyl
• oes gan eich cartref le parcio preifat oddi ar y stryd
• ydych chi’n berchen ar gerbyd cymwys
Gweithleoedd (mentrau cymdeithasol a busnesau)
Mae’r Cynllun Gwefru yn y Gweithle yn rhoi cefnogaeth i ymgeiswyr cymwys tuag at gostau ymlaen llaw prynu a gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan.
Tacsis
Gallai cerbydau allyriadau isel fod yn gymwys am grant ceir trydan. Gellir cael gostyngiad o 20% wrth werthu rhai tacsis os yw’r gwerthwr yn cynnwys y gostyngiad yn y pris prynu. Y gostyngiad uchaf yw £7,500.
Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.