Mae digwyddiadau rhwydweithio yn aml yn cael eu cysylltu â busnes, ond mae’r digwyddiad yma i bawb!
Fe’ch gwahoddir i’r Hwb Lles ddydd Mercher, 28 Mehefin, 1-4pm, i ddysgu mwy am les meddyliol a chorfforol.
Mae’r Hwb Lles, sydd yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) a Betsi Cadwaladr, wedi’i leoli ar lawr gwaelod Adeiladau’r Goron yn Wrecsam.
Bydd timau o Dîm Gwella Iechyd Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam, Help Me Quit, Re-engage a mwy yno ar y diwrnod gyda stondinau gwybodaeth, tra bydd Groundwork Gogledd Cymru yn cynnal gweithgareddau a gweithdai. Fe fyddwch chi hefyd yn gallu cyfarfod Ymgynghorwyr yr Hwb
Lles, a fydd yno i’ch croesawu a siarad am yr hyn mae lles yn ei olygu i chi.
I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 298110. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi ar y diwrnod.
Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.