Mae ymgynghoriad newydd wedi agor sydd yn gofyn am farn, syniadau, heriau ac awgrymiadau am y camau y mae angen i breswylwyr, busnesau, a sefydliadau eu cymryd i helpu Cymru i fod â diwylliant cyffredinol o drwsio ac ailddefnyddio.
Wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, mae ymgynghoriad WRAP Cymru’s ‘Tuag at Ddiwylliant Cyffredinol o Drwsio ac Ailddefnyddio yng Nghymru’ bellach ar agor, a bydd yn cau ddydd Sul 20 Hydref 2024.
Beth mae ‘Diwylliant Cyffredinol o Drwsio ac Ailddefnyddio’ yn ei olygu?
Yn anffodus, mae’r arfer o brynu pethau newydd, eu defnyddio am gyfnod byr a’u taflu’n gyflym yn rhywbeth cyffredin ar draws Cymru, fel y mae yng ngweddill y DU a gwledydd cyfoethog gorllewinol eraill, ac mae cynhyrchu cynnyrch yn dorfol wedi arwain at niwed sylweddol i’n hamgylchedd.
Mae ‘Mwy nag Ailgylchu’ yng Nghymru yn ceisio newid hyn drwy symud i “ddiwylliant cyffredinol o ailddefnyddio, trwsio ac ailweithgynhyrchu yn ein cymunedau a chanol trefi.”
Gwahoddir preswylwyr, busnesau a sefydliadau yn Wrecsam i rannu eu meddyliau am sut y gellir cyflawni hyn yn Wrecsam.
“Helpu i amddiffyn a chadw ein hamgylchedd”
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i chi rannu eich barn a’ch syniadau am sut y gallwn wneud ailddefnyddio, trwsio ac ailweithgynhyrchu yn fwy o beth yn ein cymunedau, a fydd yn helpu i amddiffyn a chadw ein hamgylchedd. Cyn i chi lenwi’r arolwg, rydym ni’n argymell eich bod yn darllen yr adroddiad crynodeb i roi mwy o gyd-destun i chi.”
Cofiwch mai’r dyddiad cau i ddweud eich dweud yw dydd Sul 20 Hydref 2024. Ni fydd dim o’ch manylion personol yn cael eu rhannu o’r arolwg yma.
Ydych chi wedi ymweld â siop ailddefnyddio yn ddiweddar?
Os ydych chi’n ystyried mynd ati i ailddefnyddio, fe ddylech alw draw i siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos.
Mae wedi’i leoli yng Nghanolfan Ailgylchu Lôn y Bryn, ac mae ar agor rhwng 9am a 5pm, bob dydd!
Yn y siop ailddefnyddio gallwch brynu nifer o eitemau ail-law sydd mewn cyflwr gwych, megis offer chwaraeon, hwfrau, pramiau, dodrefn, beiciau, dodrefn i’r ardd, a setiau teledu am bris ardderchog.
Mae pob eitem sy’n cael ei roi yn cael ei lanhau a chynhelir profion diogelwch arnynt cyn cael eu gwerthu eto yn y siop ailddefnyddio, felly mae hi werth galw draw.
Neu os hoffech chi gael gwared ar eitemau yn hytrach na phrynu, ydych chi erioed wedi ystyried eu cyfrannu?
Drwy gyfrannu eich eitemau diangen byddwch yn cefnogi’r gwasanaethau y mae Hosbis Tŷ’r Eos yn eu darparu yn Wrecsam, Sir y Fflint a dwyrain Sir Ddinbych hyd at Abermaw a’r trefi ar y ffin.
Croesawir llyfrau a beiciau i deganau plant a nwyddau’r cartref, unrhyw beth nad ydych yn eu defnyddio mwyach, ond efallai y gallent fod yn ddefnyddiol i rywun arall, yn y siop ailddefnyddio.
Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio at y man cywir i roi eich cyfraniad.
Partneriaeth newydd wedi’i chytuno ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan – Newyddion Cyngor Wrecsam