Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dweud eich dweud ar Drywydd Trwsio ac Ailddefnyddio i Gymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Dweud eich dweud ar Drywydd Trwsio ac Ailddefnyddio i Gymru
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Dweud eich dweud ar Drywydd Trwsio ac Ailddefnyddio i Gymru

Diweddarwyd diwethaf: Awst 15, 2024 11:00 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Sewing for repair and re-use
RHANNU

Mae ymgynghoriad newydd wedi agor sydd yn gofyn am farn, syniadau, heriau ac awgrymiadau am y camau y mae angen i breswylwyr, busnesau, a sefydliadau eu cymryd i helpu Cymru i fod â diwylliant cyffredinol o drwsio ac ailddefnyddio.

Cynnwys
  • Beth mae ‘Diwylliant Cyffredinol o Drwsio ac Ailddefnyddio’ yn ei olygu?
  • “Helpu i amddiffyn a chadw ein hamgylchedd”
  • Ydych chi wedi ymweld â siop ailddefnyddio yn ddiweddar?

Wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, mae  ymgynghoriad WRAP Cymru’s ‘Tuag at Ddiwylliant Cyffredinol o Drwsio ac Ailddefnyddio yng Nghymru’ bellach ar agor, a bydd yn cau ddydd Sul 20 Hydref 2024.

Beth mae ‘Diwylliant Cyffredinol o Drwsio ac Ailddefnyddio’ yn ei olygu?

Yn anffodus, mae’r arfer o brynu pethau newydd, eu defnyddio am gyfnod byr a’u taflu’n gyflym yn rhywbeth cyffredin ar draws Cymru, fel y mae yng ngweddill y DU a gwledydd cyfoethog gorllewinol eraill, ac mae cynhyrchu cynnyrch yn dorfol wedi arwain at niwed sylweddol i’n hamgylchedd.

Mae ‘Mwy nag Ailgylchu’ yng Nghymru yn ceisio newid hyn drwy symud i “ddiwylliant cyffredinol o ailddefnyddio, trwsio ac ailweithgynhyrchu yn ein cymunedau a chanol trefi.”

Gwahoddir preswylwyr, busnesau a sefydliadau yn Wrecsam i rannu eu meddyliau am sut y gellir cyflawni hyn yn Wrecsam.

“Helpu i amddiffyn a chadw ein hamgylchedd”

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i chi rannu eich barn a’ch syniadau am sut y gallwn wneud ailddefnyddio, trwsio ac ailweithgynhyrchu yn fwy o beth yn ein cymunedau, a fydd yn helpu i amddiffyn a chadw ein hamgylchedd.  Cyn i chi lenwi’r arolwg, rydym ni’n argymell eich bod yn darllen yr adroddiad crynodeb i roi mwy o gyd-destun i chi.”

Cofiwch mai’r dyddiad cau i ddweud eich dweud yw dydd Sul 20 Hydref 2024. Ni fydd dim o’ch manylion personol yn cael eu rhannu o’r arolwg yma.

LLENWI’R AROLWG

Ydych chi wedi ymweld â siop ailddefnyddio yn ddiweddar?

Os ydych chi’n ystyried mynd ati i ailddefnyddio, fe ddylech alw draw i siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos.

Mae wedi’i leoli yng Nghanolfan Ailgylchu Lôn y Bryn, ac mae ar agor rhwng 9am a 5pm, bob dydd!

Yn y siop ailddefnyddio gallwch brynu nifer o eitemau ail-law sydd mewn cyflwr gwych, megis offer chwaraeon, hwfrau, pramiau, dodrefn, beiciau, dodrefn i’r ardd, a setiau teledu am bris ardderchog.

Mae pob eitem sy’n cael ei roi yn cael ei lanhau a chynhelir profion diogelwch arnynt cyn cael eu gwerthu eto yn y siop ailddefnyddio, felly mae hi werth galw draw.

Neu os hoffech chi gael gwared ar eitemau yn hytrach na phrynu, ydych chi erioed wedi ystyried eu cyfrannu?

Drwy gyfrannu eich eitemau diangen byddwch yn cefnogi’r gwasanaethau y mae Hosbis Tŷ’r Eos yn eu darparu yn Wrecsam, Sir y Fflint a dwyrain Sir Ddinbych hyd at Abermaw a’r trefi ar y ffin.

Croesawir llyfrau a beiciau i deganau plant a nwyddau’r cartref, unrhyw beth nad ydych yn eu defnyddio mwyach, ond efallai y gallent fod yn ddefnyddiol i rywun arall, yn y siop ailddefnyddio.

Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio at y man cywir i roi eich cyfraniad.

Partneriaeth newydd wedi’i chytuno ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchuDatgarboneiddiodecarbonisationrecycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Erthygl nesaf free workshop, Wrexham businesses, Wrexham business owners, export your website workshop Mae arolwg busnes yn anelu i adeiladu ar gynnig gwerth cymdeithasol y rhanbarth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English